mradermacher/cyfieithydd-7b-fersiwn-3-i1-GGUF
Updated
•
409
source
stringlengths 3
13.7k
| target
stringlengths 3
14.3k
|
---|---|
The first item on the agenda is the election of a Presiding Officer, under Standing Order 6. So, I therefore invite nominations under Standing Order 6.6. Do we have any nominations? And we have to have a Member from a different political party to second any nomination. So, nominations please. | Yr eitem gyntaf ar yr agenda yw ethol Llywydd, o dan Reol Sefydlog 6. Felly, rwy'n gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 6.6. A oes gennym unrhyw enwebiadau? Ac mae'n rhaid i ni gael Aelod o blaid wleidyddol wahanol i eilio unrhyw enwebiad. Felly, eich enwebiadau os gwelwch yn dda. |
I nominate Elin Jones as Presiding Officer of the National Assembly for Wales. | Rwy'n codi i enwebu Elin Jones fel Llywydd y Cynulliad. |
I second Elin Jones for the position of Presiding Officer. | Rwy'n eilio Elin Jones ar gyfer swydd y Llywydd. |
Thank you, Jane Hutt. Are there any other nominations? | Diolch i chi, Jane Hutt. A oes unrhyw enwebiadau eraill? |
Presiding Officer, I'd like to nominate Dafydd Elis-Thomas as Presiding Officer. | Lywydd, hoffwn i enwebu Dafydd Elis-Thomas fel Llywydd. |
Dafydd Elis-Thomas. Is there a seconder, from another party? | Dafydd Elis-Thomas. A oes eilydd o blaid arall? |
I'd like to second the nomination of Dafydd Elis-Thomas for Deputy - for Presiding Officer, sorry. | Hoffwn eilio enwebiad Dafydd Elis-Thomas ar gyfer y Dirprwy - ar gyfer y Llywydd, mae'n ddrwg gennyf. |
Are you sure now? | A ydych chi'n siŵr? |
Yes - thinks. | Ydw - rwy'n meddwl. |
Right, thank you. It helps if you take your earphones off, you know - you don't hear yourself. Are there any other nominations? No other nominations for Presiding Officer. As we have two nominations, I would invite the two candidates to stand and say just a few words about themselves, and I hope I don't have to have the prerogative of the Presiding Officer to call you to time this afternoon; I will be generous. The first nomination was Elin Jones. Therefore, I call Elin Jones to speak to the Assembly. Elin Jones. | Iawn, diolch. Mae'n helpu os tynnwch eich clustffonau, wyddoch chi - nid ydych yn clywed eich hun. A oes unrhyw enwebiadau eraill? Dim enwebiadau eraill ar gyfer y Llywydd. Gan fod gennym ddau enwebiad, hoffwn wahodd y ddau ymgeisydd i sefyll a dweud ychydig o eiriau amdanynt eu hunain, ac rwy'n gobeithio nad oes rhaid i mi arfer hawl y Llywydd i ddatgan bod eich amser ar ben y prynhawn yma; fe fyddaf yn hael. Yr enwebiad cyntaf oedd Elin Jones. Felly, galwaf ar Elin Jones i annerch y Cynulliad. Elin Jones. |
Thank you, Presiding Officer. May I welcome everybody to the Assembly, those of you who are newcomers and those of you who are returning? May I say that I believe that it's a great honour to be proposed as Presiding Officer designate and to put my name forward to the vote? Some of you know me very well, and some of you perhaps don't know me at all. Therefore, before moving to the vote, I'll outline some of the principles that will be the foundation of my term as Presiding Officer, if successful. First of all, I would endeavour to be fair - attempt to be fair and be fair - with every Member of this Assembly, to treat everybody equally and to safeguard the rights of each individual Member. Secondly, I would promote and safeguard the good reputation of this Assembly, here in the Chamber and beyond, in every community within Wales. And I would wish to allow a lively, healthy, democratic debate here in the Assembly, and I would be transparent at all times. Finally, I would also ensure that this Senedd plays a constructive, collaborative role with our fellow and sister Parliaments within the United Kingdom and beyond. I would hope, this afternoon, that I will gain your support for Presiding Officer. | Diolch, Lywydd. Croeso, bawb, i'r Cynulliad - y rhai ohonoch chi sydd yn newydd-ddyfodiaid, a'r rhai ohonoch chi sydd yn dychwelyd. A gaf i ddweud fy mod i'n ei ffeindio hi'n anrhydedd fawr i gael fy nghynnig fel darpar Lywydd ac i roi fy enw ymlaen ger eich bron chi ar gyfer pleidlais? Mae rhai ohonoch chi yn fy adnabod i yn dda iawn, ac nid yw rhai ohonoch chi yn fy adnabod i o gwbl. Felly, cyn symud at bleidlais, fe wnaf i amlinellu rhai o'r egwyddorion a fydd yn sylfaen i fy nghyfnod i fel Llywydd, os byddaf i'n llwyddiannus. Yn gyntaf, fe fyddwn i'n ceisio bod yn deg - yn deg - â phob un Aelod o'r Cynulliad yma, i drin pawb yn gyfartal, ac i ddiogelu hawliau pob un Aelod unigol. Yn ail, fe fyddwn i yn hyrwyddo a diogelu enw da y Cynulliad yma, ac i wneud hynny yma yn y Siambr, a thu hwnt, ym mhob rhan, ym mhob cymuned, yng Nghymru. Ac fe fyddwn i eisiau caniatáu trafodaeth ddemocrataidd, fywiog, iach yma yn y Cynulliad, ac yn dryloyw ar bob adeg. Ac, yn olaf, fe fyddwn i eisiau sicrhau hefyd bod y Senedd yma yn chwarae rhan adeiladol, gydweithredol gyda'n cyd-senedd-dai o fewn y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt i hynny. Ac rwy'n gobeithio, y prynhawn yma, am eich cefnogaeth chi i fod yn Llywydd arnoch chi. |
Thank you. I now call on Dafydd Elis-Thomas. | Diolch. Galwaf yn awr ar Dafydd Elis-Thomas. |
Thank you very much, Presiding Officer. Strengthening the Welsh constitution has been the main aim and pleasure in my life, and the opportunity, be that unexpected, to continue with that work by presiding over the fifth Assembly is one that I believe to be crucial, because this is the Assembly that will move this Senedd from being a relatively inferior Senedd within the UK to being an equal partner. This will be the Senedd where the responsibility for all our parliamentary proceedings will be devolved to us, and, hopefully, that will happen very soon, given all the sluggishness that there's been in agreeing the Wales Bill. I won't actually go in to who's to blame on one side or the other in a speech such as this one. In addition to that, we will have responsibility for our own electoral arrangements, and it appears to me, having been in a number of polling booths, as a constituency candidate, that there is a case for us to look anew - for the first time from our point of view as a body - at the voting system and to see whether there is a more proportional system and a more democratic system that we could put in place. The other challenge, of course, is to ensure that this Senedd is a Senedd that works efficiently. I have to say that, having spent time in the chair, as an individual Member and as a committee Chair, we haven't yet developed the correct and mature balance between scrutinising Government and getting our business through. Those two aspects of the role of a parliament are just as important if we are to be an effective parliament. This, too, will be a period where we are likely to have responsibility in appointing a new chief executive for this institution, and this is an opportunity for us to not only thank the incumbent chief executive but also to thank her for the inspiration that has been given to the high-quality staff that we have in this place. Many of you who are former Members, as I have been, of another place, have told me how happy you are to see the professional quality of the work carried out here. I am fully committed to ensuring that those working for us are given appropriate recognition. Thank you very much. | Diolch yn fawr, Lywydd. Cryfhau cyfansoddiad Cymru yw prif bleser fy mywyd i wedi bod. Ac mae'r cyfle, os annisgwyl, i barhau â'r gwaith yma, drwy lywyddu dros y pumed Cynulliad, yn un rwy'n meddwl sy'n allweddol. Oherwydd, dyma'r Cynulliad a fydd yn symud y Senedd hon o fod yn Senedd gymharol is-raddol o fewn y Deyrnas Unedig i fod yn bartner cyfartal. Dyma'r Senedd ble bydd y cyfrifoldeb dros ein holl weithdrefnau seneddol yn cael ei ddatganoli i ni - gobeithio yn fuan, ar ôl yr holl arafwch sydd wedi bod yn cytuno Bil Cymru, ac af i ddim i ddadlau ar bwy mae'r bai ar un ochr na'r llall mewn araith fel hon. Yn ogystal â hynny, fe fydd gyda ni'r cyfrifoldeb dros ein cyfundrefn etholiadol. Ac mae'n ymddangos i mi, ar ôl bod mewn llawer o fythau pleidleisio, fel ymgeisydd dros etholaeth, fod yna achos inni edrych unwaith eto - am y tro cyntaf o'n safbwynt ni'n hunain fel corff - ar y drefn bleidleisio a cheisio gweld a oes yna drefn fwy cyfranogol mewn gwirionedd a mwy democrataidd y gallem ni ei sefydlu. Yr her arall, wrth gwrs, yw sicrhau bod y Senedd hon yn Senedd sydd yn gweithio yn effeithlon. Mae'n rhaid imi ddweud, ar ôl treulio amser yn y gadair ac amser fel Aelod unigol a Chadeirydd pwyllgor, nad ydym ni eto wedi datblygu'r cydbwysedd aeddfed rhwng craffu ar y Llywodraeth a chael y busnes drwodd. Mae'r ddwy agwedd yna ar rôl senedd yr un mor bwysig er mwyn bod yn senedd effeithlon. Mi fydd hyn hefyd yn gyfnod pryd bydd y cyfrifoldeb arnom ni, mae'n bur debyg, o benodi prif weithredwr newydd i'r sefydliad yma, ac mae hynny'n gyfle inni nid yn unig i ddiolch i'r prif weithredwr presennol, ond i ddiolch iddi am yr ysbrydoliaeth sydd wedi'i gosod i staff o safon uchel yn y lle hwn. Mae nifer ohonoch chi a oedd yn gyn-Aelodau, fel finnau, mewn lle arall, wedi dweud wrthyf mor hapus ydych chi i weld safon broffesiynol y gwaith sy'n cael ei wneud yma. Mae gen i ymrwymiad llwyr i sicrhau bod y rhai sy'n gweithio i ni yn cael y gydnabyddiaeth briodol. Diolch yn fawr i chi. |
Thank you very much. As we have two candidates, we will therefore hold a secret ballot. So, we will now adjourn the meeting to allow that ballot to take place. Members will have 30 minutes to cast their votes. Voting will take place in briefing room 13 and ushers are on hand to direct the Members to that room. Guidance on this procedure is outlined in the document that you've already received and the bell will be rung to indicate when the voting booths are open. The Clerk will be responsible for supervising the voting and counting the votes. Following the secret ballot, I will arrange for the bell to be rung a second time five minutes before we reconvene in the Siambr. I will then announce the results. We may reconvene sooner than 30 minutes, if all Members have voted before then. So, I now adjourn the meeting. | Diolch yn fawr iawn. Gan fod gennym ddau ymgeisydd, fe gynhaliwn bleidlais gudd. Felly, gohiriwn y cyfarfod yn awr er mwyn caniatáu i'r bleidlais honno ddigwydd. Bydd yr Aelodau'n cael 30 munud i fwrw eu pleidlais. Bydd y pleidleisio'n digwydd yn ystafell briffio 13 ac mae tywyswyr wrth law i gyfeirio'r Aelodau at yr ystafell honno. Amlinellir canllawiau ar y weithdrefn hon yn y ddogfen rydych eisoes wedi'i derbyn a chenir y gloch i ddynodi bod y bythau pleidleisio ar agor. Y Clerc fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau. Yn dilyn y bleidlais gudd, byddaf yn trefnu i'r gloch gael ei chanu am yr eilwaith bum munud cyn i ni ailymgynnull yn y Siambr. Wedyn, byddaf yn cyhoeddi'r canlyniadau. Efallai y byddwn yn ailymgynnull cyn pen 30 munud, os yw'r holl Aelodau wedi pleidleisio cyn hynny. Felly, rwy'n gohirio'r cyfarfod yn awr. |
The Assembly is now back in session, and the result of the secret ballot is as follows. All the 60 Members voted: Elin Jones, 34, Dafydd Elis-Thomas 25, and 1 abstention. I therefore declare, in accordance with Standing Order 6.9, that Elin Jones is elected as Presiding Officer to the National Assembly for Wales, and I invite her to take the Chair. [Applause.] | Dyma ailddechrau trafodion y Cynulliad, ac mae canlyniad y bleidlais gudd fel a ganlyn. Pleidleisiodd pob un o'r 60 o Aelodau: Elin Jones, 34, Dafydd Elis-Thomas 25, ac 1 yn ymatal. Felly, rwy'n datgan, yn unol â Rheol Sefydlog 6.9, fod Elin Jones wedi'i hethol yn Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac rwy'n ei gwahodd i gymryd y Gadair. [Cymeradwyaeth.] |
We now move to the election of the Deputy Presiding Officer. In accordance with Standing Order 6.12, I would like to remind Members that only a nomination from a different political party to mine and a group with an Executive role will be valid in the first place. However, this rule can be disapplied with the support of two thirds of Members once the nominations are known. Do we have a Member of a different political party - ? Is there a nomination for the Deputy Presiding Officer? | Fe symudwn ni nawr at ethol y Dirprwy Lywydd. Yn unol â Rheol Sefydlog 6.12, hoffwn atgoffa Aelodau mai dim ond os yw enwebiad o grŵp gwleidyddol gwahanol i fy un i ac o grŵp â rôl Weithredol y bydd enwebiadau ar gyfer Dirprwy Lywydd yn ddilys yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, gellir datgymhwyso'r rheol hon gyda chefnogaeth dwy ran o dair o'r Aelodau unwaith y bydd yr enwebiadau yn hysbys. A oes gennym Aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol - ? A oes yna enwebiad ar gyfer y Dirprwy Lywydd? |
Llywydd, can I nominate John Griffiths for the post of Deputy Presiding Officer? | Lywydd, a gaf fi enwebu John Griffiths ar gyfer swydd y Dirprwy Lywydd? |
Do we a Member from a different political group to second the nomination? | A oes gennym Aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol i eilio'r enwebiad yna? |
I second John Griffiths AM. | Rwy'n eilio John Griffiths AC. |
Thank you. Are there any other nominations? | Diolch. A oes unrhyw enwebiadau eraill? |
I want to nominate Ann Jones. | Rwyf am enwebu Ann Jones. |
Do we have a Member from a different political group to second that nomination? | A oes gennym Aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol i eilio'r enwebiad yna? |
I would like to second Ann Jones. | Hoffwn eilio Ann Jones. |
Thank you for that. Are there any other nominations? I see that there are none. I therefore propose in accordance with Standing Order 6.8 - no. That's my first error. If there is more than one nomination - all right. Therefore, there are two nominations for the post and a secret ballot will be held under Standing Order 6.8. Prior to that, I now invite the nominated candidates to address the Assembly, and I will call them in the order in which they were nominated. I therefore firstly call upon John Griffiths to address the Assembly. | Diolch am hynny. A oes unrhyw enwebiadau eraill? Gwelaf felly nad oes unrhyw enwebiad arall. Cynigiaf felly yn unol â Rheol Sefydlog 6.8 - na. Dyna fy nghamgymeriad cyntaf. Os oes mwy nag un enwebiad - olréit. Felly, mae yna ddau enwebiad ar gyfer y swydd, ac fe gynhelir pleidlais gudd o dan Reol Sefydlog 6.8. Cyn hynny, byddaf nawr yn gwahodd yr ymgeiswyr a enwebwyd i annerch y Cynulliad, a byddaf yn eu galw nhw yn y drefn y cawsant eu henwebu. Felly, galwaf yn gyntaf ar John Griffiths i annerch y Cynulliad. |
Diolch yn fawr, Lywydd. Could I firstly congratulate you on your election to the post of Presiding Officer, and also add my appreciation to the work of Rosemary Butler, the former Presiding Officer, who I think everybody in this Chamber would agree did a great deal of good work over the previous five years and provides a very fine example to follow? In that vein, could I also say that, if I am to become Deputy Presiding Officer, it will be a great challenge to follow the role set out and fulfilled by David Melding, who I think, again, everybody in this Chamber would agree fulfilled his duties as Deputy - [Applause.] - fulfilled his role as Deputy with great distinction, Llywydd? Llywydd, many of us have been on a long journey with devolution. I've been here since the beginning in 1999 and it's been a tremendous privilege to watch devolution grow and develop and this institution grow and develop - develop its powers, develop its role and increase its standing with the people of Wales. The future, the next five years, will see a further increase in those powers and I hope a further increase in the standing of the National Assembly for Wales. I believe it's a very exciting time with the Wales Act and electoral arrangements to be decided here offering new possibilities in terms of the way we organise ourselves and engage with the people of Wales. If I were to become Deputy Presiding Officer, I would be very keen to play a role in taking that very, very important work forward. I do believe that I have important experience, having been here since 1999 and also having been leader of the legislative programme and Counsel General, as well as, of course, a backbencher in more recent times. So, I do believe I have a good deal of relevant experience and I also believe I have the abilities to fulfil this role effectively. Llywydd, can I say, finally, it's obviously very important to strike the right balance between the Government and opposition and, I believe, more crucial to ensure that the rights of backbenchers are not just protected but enhanced? So, what I would say in conclusion is that, if I were to become Deputy Presiding Officer, my utmost priority would be to be impartial and fair to all, and I ask for your support on that basis. | Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi yn gyntaf eich llongyfarch ar eich ethol i swydd y Llywydd, ac ychwanegu hefyd fy ngwerthfawrogiad o waith Rosemary Butler, y cyn-Lywydd? Credaf y byddai pawb yn y Siambr hon yn cytuno ei bod wedi gwneud llawer iawn o waith da dros y pum mlynedd flaenorol ac yn esiampl dda iawn i'w dilyn. I'r un perwyl, a gaf fi ddweud hefyd y bydd yn her fawr, os dof yn Ddirprwy Lywydd, i ddilyn y rôl a osodwyd ac a gyflawnwyd gan David Melding? Unwaith eto, Lywydd, credaf y byddai pawb yn y Siambr hon yn cytuno ei fod wedi cyflawni ei ddyletswyddau fel Dirprwy - [Cymeradwyaeth.] - cyflawni ei rôl fel Dirprwy yn anrhydeddus iawn. Lywydd, mae llawer ohonom wedi bod ar daith hir gyda datganoli. Rwyf wedi bod yma ers y dechrau yn 1999 a bu'n fraint aruthrol gwylio datganoli'n tyfu a datblygu a'r sefydliad hwn yn tyfu a datblygu - yn datblygu ei bwerau, yn datblygu ei rôl a gwella'i enw da ymhlith pobl Cymru. Yn y dyfodol, yn ystod y pum mlynedd nesaf, fe welwn gynnydd pellach yn y pwerau hynny a gwella enw da Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymhellach, gobeithio. Rwy'n credu ei bod yn adeg gyffrous iawn gyda Deddf Cymru a'r trefniadau etholiadol sydd i'w penderfynu yma yn cynnig posibiliadau newydd o ran y ffordd rydym yn trefnu ein hunain ac yn ymwneud â phobl Cymru. Pe bawn yn dod yn Ddirprwy Lywydd, byddwn yn awyddus iawn i chwarae rôl yn datblygu'r gwaith hynod bwysig hwn. Credaf fod gennyf brofiad pwysig, o fod wedi bod yma ers 1999 a hefyd o fod wedi bod yn arweinydd y rhaglen ddeddfwriaethol ac yn Gwnsler Cyffredinol, yn ogystal ag Aelod o'r meinciau cefn yn fwy diweddar wrth gwrs. Felly, rwy'n meddwl bod gennyf lawer iawn o brofiad perthnasol a chredaf hefyd fod gennyf y gallu i gyflawni'r rôl hon yn effeithiol. Lywydd, a gaf fi ddweud yn olaf ei bod hi'n amlwg yn bwysig iawn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng y Llywodraeth a'r gwrthbleidiau ac yn fy marn i, yn fwy hanfodol i sicrhau bod hawliau Aelodau'r meinciau cefn nid yn unig yn cael eu gwarchod, ond yn cael eu gwella? Felly, yr hyn y byddwn yn ei ddweud i gloi yw hyn; pe bawn yn dod yn Ddirprwy Lywydd, fy mlaenoriaeth bennaf un fyddai bod yn ddiduedd ac yn deg â phawb, a gofynnaf am eich cefnogaeth ar y sail honno. |
And Ann Jones. | Ac Ann Jones. |
We will now adjourn the meeting to allow the secret ballot to take place. Members will once again have 30 minutes to cast their vote, and, once again, the voting will take place in briefing room 13. I therefore adjourn the meeting. | Byddwn nawr felly yn gohirio'r cyfarfod er mwyn caniatáu i'r bleidlais gudd gael ei chynnal. Bydd yr Aelodau unwaith eto'n cael 30 munud i fwrw eu pleidlais, ac, unwaith eto, bydd y pleidleisio yn digwydd yn ystafell friffio 13. Rwyf felly yn gohirio y cyfarfod. |
Assembly, I am now in a position to give you the result of the secret ballot for the Deputy Presiding Officer. John Griffiths received 29 votes and Ann Jones 30 votes. I therefore declare, in accordance with Standing Order 6.9 that Ann Jones is elected as Deputy Presiding Officer of the National Assembly for Wales. Once again, before proceeding, I think it would be appropriate for us to acknowledge the work of the former Deputy Presiding Officer, David Melding: insightful and diligent work during this past Assembly, in this Chamber, beyond this Chamber and as Chair of Assembly committees. Therefore, may I take this opportunity to thank David Melding very much on behalf of this Assembly? [Applause.] I congratulate Ann Jones on her election as Deputy Presiding Officer and ask, if she so wishes, whether she would wish to say a few words. | Gynulliad, rwyf nawr mewn sefyllfa i adrodd ar ganlyniad y bleidlais gudd ar gyfer y Dirprwy Lywydd. Fe gafodd John Griffiths 29 pleidlais ac Ann Jones 30 pleidlais. Rwy'n datgan, felly, yn unol â Rheol Sefydlog 6.9, fod Ann Jones wedi ei hethol yn Ddirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol. Unwaith eto, cyn symud ymlaen, rwy'n credu ei bod hi'n briodol ein bod ni'n cydnabod gwaith y cyn-Ddirprwy Lywydd, David Melding: gwaith craff a diwyd yn ystod y Cynulliad diwethaf yma, yn y Siambr yma, y tu hwnt i'r Siambr yma, ac yn ei waith hefyd fel Cadeirydd amryw o bwyllgorau'r Cynulliad. Felly, a gaf i gymryd y cyfle i ddiolch i David Melding yn fawr iawn ar ran y Cynulliad yma? [Cymeradwyaeth.] Rwy'n llongyfarch Ann Jones ar gael ei hethol yn Ddirprwy Lywydd, ac yn gofyn iddi, os ydy hi'n dymuno gwneud hynny, i roi ychydig eiriau i'r Cynulliad. |
Diolch, Lywydd. Can I just say, 'Thank you, John', because John and I have spent lots of time walking corridors - haven't we John - over the last couple of days? And I'd like to say thank you to John, because I think what we've done is we've worked together with the best interests of this Assembly at heart. And I haven't had this slim a majority - I've been known to have slim majorities - but I haven't had this slim a majority, but, nevertheless, can I thank everybody for their confidence in me? I promise I won't let you down, and I promise that I will work very hard to make sure that this institution is regarded as what it should be and what it really is, and that is the best of the institutions across the UK. So, diolch yn fawr iawn; thank you. [Applause.] | Diolch, Lywydd. A gaf fi ddweud, 'Diolch, John', gan fod John a minnau wedi treulio llawer o amser yn cerdded coridorau - onid ydym, John - dros y diwrnodau diwethaf? A hoffwn ddiolch i John, oherwydd credaf mai'r hyn a wnaethom oedd gweithio gyda'n gilydd er lles y Cynulliad hwn yn y bôn. Ac ni chefais fwyafrif mor fain - cefais fwyafrifoedd main o'r blaen - ond ni chefais fwyafrif mor fain â hyn, ond er hynny, a gaf fi ddiolch i bawb am eu hyder ynof? Rwy'n addo na fyddaf yn eich siomi, ac rwy'n addo y byddaf yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr fod y sefydliad hwn yn cael ei gydnabod fel y dylai, a'r hyn ydyw mewn gwirionedd, sef y gorau o'r sefydliadau ar draws y DU. Felly, diolch yn fawr iawn; diolch. [Cymeradwyaeth.] |
We therefore proceed to the next item of business, namely the nomination of First Minister. In accordance with Standing Order 12.11, the proposal is to bring forward nominations for a First Minister. Does any Member object? If not, we will take nominations for appointment as First Minister. May I ask whether there are any nominations for First Minister? | Rydym yn symud ymlaen felly at y busnes nesaf ar yr agenda, sef i enwebu'r Prif Weinidog. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.11, y bwriad yw dwyn ymlaen enwebiadau ar gyfer y Prif Weinidog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, yna fe gymerwn ni yr enwebiadau ar gyfer y Prif Weinidog. A gaf i ofyn felly a oes yna unrhyw enwebiadau ar gyfer enwebu'r Prif Weinidog? |
Can I nominate Carwyn Jones as the First Minister of Wales? | A gaf fi enwebu Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru? |
As there are two nominations, I will now conduct a vote by roll call and invite each Member present to vote for a candidate. I will call each Member present in alphabetical order. Please clearly state the name of the candidate you support when I call your name, or indicate that you wish to abstain. In accordance with Standing Order 8.2, neither the Deputy Presiding Officer nor I are permitted to vote. Therefore, in alphabetical order, I call for you to nominate one of the two candidates or to abstain, beginning with Mick Antoniw. | Gan fod dau enwebiad felly, byddaf yn cynnal nawr bleidlais drwy alw'r gofrestr, ac yn gwahodd pob Aelod sy'n bresennol i bleidleisio dros ymgeisydd. Byddaf yn galw pob Aelod sy'n bresennol yn nhrefn yr wyddor, a dywedwch enw'r ymgeisydd yr ydych yn ei gefnogi yn glir pan gewch eich galw, neu dywedwch yn glir eich bod yn dymuno ymatal. Yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, ni chaniateir i'r Dirprwy Lywydd na minnau bleidleisio. Ac felly, yn nhrefn yr wyddor, fe rydw i yn galw chi i enwebu un o'r ddau ymgeisydd, neu i ymatal. Ac Mick Antoniw, felly, i ddatgan. |
Steffan Lewis. | Steffan Lewis. |
We have taken the roll call. If we may now pause, we will confirm the result. | Dyna ni, felly, gymryd y bleidlais. Rhowch ychydig eiliadau i ni gasglu'r canlyniad. |
The result of the vote for nomination as First Minister was Carwyn Jones, 29, Leanne Wood, 29. Following the fact that there is no majority, I therefore adjourn the remainder of this sitting for the time being and I therefore close this meeting. | Canlyniad y bleidlais ar gyfer yr enwebiad ar gyfer Prif Weinidog oedd Carwyn Jones, 29, Leanne Wood, 29. Yn sgil y ffaith nad oes yna fwyafrif, fe rydwyf felly yn gohirio gweddill y cyfarfod yma am nawr ac yn cau'r cyfarfod. |
Order, therefore, in the Assembly. Following discussions with the groups, it is evident to me that reopening nominations for First Minister today would not deliver a different result to the one we saw earlier. I therefore bring the meeting to a close and, in accordance with Standing Order 12.8, I will ensure that Members are notified in good time of the date and time of the next meeting. | Trefn, felly, Gynulliad. Yn dilyn trafodaethau gyda'r grwpiau yma, mae'n amlwg imi na fyddai ail-agor enwebiadau ar gyfer Prif Weinidog heddiw yn dod â chanlyniad gwahanol i'r hyn a gafwyd ynghynt y prynhawn yma. Rwyf i, felly, yn dod â'r cyfarfod i ben, ac, yn unol â Rheol Sefydlog 12.8, byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau'n cael gwybod mewn da bryd am ddyddiad ac amser y cyfarfod nesaf. |
Order. I call the National Assembly to order. | Trefn. Galwaf y Cynulliad Cenedlaethol i drefn. |
We will begin the meeting by resuming with the nomination of the First Minister under Standing Order 8, which was adjourned from last week's meeting. At that meeting, two nominations were made and Carwyn Jones and Leanne Wood received an equal number of votes. Carwyn Jones was nominated by Jane Hutt and Leanne Wood was nominated by Rhun ap Iorwerth. Can I please confirm that you still want those nominations to go forward? | Byddwn ni'n dechrau'r cyfarfod drwy ddychwelyd at enwebu'r Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8, a ohiriwyd yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf. Yn y cyfarfod hwnnw, daeth dau enwebiad i law ac fe gafodd Carwyn Jones a Leanne Wood nifer cyfartal o bleidleisiau. Enwebwyd Carwyn Jones gan Jane Hutt ac enwebwyd Leanne Wood gan Rhun ap Iorwerth. A fyddai modd imi gael cadarnhad eich bod yn dal yn awyddus i'r enwau hynny barhau? |
Presiding Officer, with your permission, a week ago, I nominated the leader of Plaid Cymru for the post of First Minister of Wales. Today, on behalf of the main opposition party, having succeeded in showing the largest party in the National Assembly that they do not have a majority in this place and that they need to reflect on that, I withdraw Leanne Wood's nomination. | Lywydd, gyda'ch caniatâd, wythnos yn ôl, mi enwebais i arweinydd Plaid Cymru ar gyfer swydd Prif Weinidog Cymru. Heddiw, ar ran y prif wrthblaid, ac ar ôl llwyddo i ddangos i'r blaid fwyaf yma yn y Cynulliad Cenedlaethol nad oes ganddyn nhw fwyafrif, a bod angen adlewyrchu ar hynny, rydw i yn tynnu enwebiad Leanne Wood yn ôl. |
In that case, only one nomination remains. And, it is my view that it would not be reasonable to conduct another roll-call vote when one of these candidates wishes to withdraw. | Felly, dim ond un enwebiad sydd ar ôl, ac, yn sgîl hynny, yn fy marn i, ni fyddai'n rhesymol cynnal pleidlais arall drwy alw enwau pan fo un o'r ymgeiswyr yma am dynnu yn ôl. |
On a point of order, we had, before the session was adjourned, two nominations. There are no provisions in Standing Orders for nominations to be withdrawn. Indeed, the Standing Orders state expressly, at 8.2, 'If there is an equality of votes between the two candidates a further vote by roll call must take place.' The language could not be more express or mandatory. It may be that Leanne Wood, and Plaid Cymru Members, no longer wish to vote for Leanne Wood, but she was nominated with her agreement, and, surely, it would be in order for Standing Orders to be applied, as expressly stated. If they do not wish to vote for her, then they abstain, or they may vote for Carwyn Jones, but there is no provision for anyone to withdraw a nomination once made. It expressly states in Standing Orders that that vote must take place. | Ar bwynt o drefn, cyn i'r trafodion gael eu gohirio, roedd gennym dau enwebiad. Nid oes unrhyw ddarpariaethau yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer tynnu enwebiadau yn ôl. Yn wir, mae'r Rheolau Sefydlog yn datgan yn benodol, yn 8.2, 'Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais arall drwy alw'r gofrestr.' Ni allai'r iaith fod yn fwy pendant a gorfodol. Efallai nad yw Leanne Wood ac Aelodau Plaid Cymru bellach yn dymuno pleidleisio dros Leanne Wood, ond fe'i henwebwyd gyda'i chytundeb, ac yn sicr, byddai'n briodol cymhwyso'r Rheolau Sefydlog, fel y nodwyd yn bendant. Os nad ydynt yn dymuno pleidleisio drosti, yna gallant ymatal, neu gallant bleidleisio dros Carwyn Jones, ond ni cheir darpariaeth i unrhyw un dynnu enwebiad yn ôl ar ôl ei wneud. Mae'n datgan yn benodol mewn Rheolau Sefydlog fod yn rhaid cynnal y bleidlais honno. |
Thank you for that point of order. I have made my ruling in this instance. Members will appreciate that the Standing Orders do not go into detail on every conceivable scenario and, in such situations, it is my responsibility as Presiding Officer to interpret the Standing Orders and guide this Assembly as best I can. It would be unreasonable to force someone who no longer wishes to be nominated as First Minister to be a candidate in a vote on that question. As nominations were invited last week, therefore, and there is no provision in the Standing Orders for reopening nominations, in accordance with Standing Order 8.2, I therefore declare that Carwyn Jones is nominated for the appointment as First Minister. In accordance with section 47 (4) - | Diolch am y pwynt o drefn. Rwyf wedi gwneud fy nyfarniad yn yr achos yma. Bydd yr Aelodau yn deall nad yw'r Rheolau Sefydlog yn mynd i fanylion ynghylch pob sefyllfa bosib, ac, mewn sefyllfaoedd o'r fath, fy nghyfrifoldeb i fel Llywydd yw dehongli'r Rheolau Sefydlog, a llywio'r Cynulliad yma orau y gallaf i. Byddai'n afresymol gorfodi unrhyw un nad yw bellach yn dymuno cael ei enwebu fel Prif Weinidog i fod yn ymgeisydd mewn pleidlais ar y cwestiwn hwnnw. Gan fod enwebiadau wedi'u gwahodd yr wythnos diwethaf, felly, ac nad oes yna ddarpariaeth yn y Rheolau Sefydlog i ailagor yr enwebiadau, rwyf felly, yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, yn datgan bod Carwyn Jones wedi'i enwebu i'w benodi yn Brif Weinidog. Yn unol ag adran 47 (4) - |
The nomination has been made now, and I proceed. Therefore, there is no other point of order. I have made my ruling on that point - | Mae'r enwebiad wedi'i wneud nawr, ac rwy'n symud ymlaen. Felly, nid oes yna bwynt arall o drefn yn dod, rwy'n meddwl. Rwyf wedi gwneud fy nyfarniad ar y pwynt - |
Expressly with reference to the ruling and information just given? | Gan gyfeirio'n bendant at y dyfarniad a'r wybodaeth sydd newydd ei rhoi? |
Well, I have made my ruling. I'll allow you one further opportunity to challenge that, but that's it then. | Wel, rwyf wedi gwneud fy nyfarniad. Rwyf am ganiatáu un cyfle arall i chi herio hynny, ond dyna ni wedyn. |
Thank you. Of course, not all provisions are made in Standing Orders, and not all eventualities are considered. But this specific eventuality - 'If there is an equality of votes between thecandidates' - is specifically and expressly considered, and it states, 'a further vote by roll call must take place.' I have not suggested anyone else be nominated in my point of order - | Diolch. Wrth gwrs, nid yw'r holl ddarpariaethau'n cael eu gwneud yn y Rheolau Sefydlog, ac ni chaiff pob amgylchiad ei ystyried. Ond mae'r amgylchiad penodol hwn - 'Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd yn gyfartal' - yn cael ei ystyried yn benodol ac yn bendant, ac mae'n nodi, 'rhaid cynnal pleidlais arall drwy alw'r gofrestr.' Nid wyf wedi awgrymu y dylid enwebu unrhyw un arall yn fy mhwynt o drefn - |
Move on. Move on to a new point of order. Move on to a new point of order. [Interruption.] | Symudwch ymlaen. Symudwch ymlaen at bwynt newydd o drefn. Symudwch ymlaen at bwynt newydd o drefn. [Torri ar draws.] |
I have not made any point in my point of order suggesting someone else should be nominated, merely that the express condition of the Standing Orders be carried out, in the eventuality expressly provided for in Standing Orders. | Nid wyf wedi gwneud unrhyw bwynt yn fy mhwynt o drefn sy'n awgrymu y dylid enwebu rhywun arall, dim ond nodi y dylid gweithredu amod benodol y Rheolau Sefydlog, yn sgil yr amgylchiad y darperir ar ei gyfer yn y Rheolau Sefydlog. |
And I stated in my ruling that it was not reasonable for us to hold another election when one of the candidates nominated no longer wishes to be nominated. So, it would be unreasonable to hold a vote in those circumstances. Therefore, I proceed to declare that Carwyn Jones has been nominated to be appointed First Minister. In accordance with section 47 (4) of the Government of Wales Act 2006, I will recommend to Her Majesty the appointment of Carwyn Jones as First Minister. I therefore invite Carwyn Jones to address this Assembly. [Applause.] | Ac fe ddywedais i yn fy nyfarniad i nad oedd hi'n rhesymol i ni gynnal etholiad arall pan fo un o'r ymgeiswyr sydd wedi ei henwebu bellach ddim yn dymuno cael ei henwebu bellach. Felly, fe fyddai'n afresymol ohonom ni i gynnal y bleidlais yn yr amgylchiadau yna. Felly, rwy'n symud ymlaen, eto, i ddatgan bod Carwyn Jones wedi'i enwebu i'w benodi yn Brif Weinidog, ac, yn unol ag Adran 47 (4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, byddaf yn argymell i'w Mawrhydi y dylid penodi Carwyn Jones yn Brif Weinidog. Rwy'n gwahodd Carwyn Jones, felly, i annerch y Cynulliad yma. [Cymeradwyaeth.] |
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. This today is not about coalition. Today is a one-off vote to allow Labour's nomination to go through. If that party thinks that their bullying last week will stop Plaid Cymru from voting in a similar way in the future, to hold you to account, then think again. I'm not sorry for what happened last week and I will do it again if I have to make Labour realise that they are running a minority Government. What we saw last week from that party was arrogance, it was complacency, and what we saw was a sense of entitlement on display. That vote happened because they refused to delay proceedings for just one week so that meaningful talks could take place. Well, we did get our week to talk, but it took some drama to get there. Labour's smearing against us last week will not be forgotten. Those MPs, Assembly Members and Labour-affiliated organisations that tried to make out that we had done a deal with the right and the further right were wrong. Today's election of a First Minister proves that there was no deal and I look forward to the retractions. Are you big enough to admit that you were wrong? The arrangement that we have arrived at today does not mean that Plaid Cymru endorses this minority Government or its leader. We are allowing his election as First Minister, but it is not support. We didn't have time to consider and negotiate on the most difficult issues. There was no progress on policy areas like the M4 black route or blue route, detailed measures to save the steel industry, fair voting or student finance, for example. I would have liked for us to have been able to secure commitment on a steel innovation centre, a Bangor medical school, a vet school in Aberystwyth and a green skills construction college in the Valleys. Again, the time constraints didn't allow for detailed proposals on those projects to be considered. As the lead opposition, we will be returning to those matters through the budget and the other vehicles that are available to us. I ask the First Minister and his party to take the time between now and the first budget vote to consider how these priorities, for us, where there is disagreement between our parties, can be resolved. During the recent Assembly elections, Plaid Cymru stood on a platform of change: change that would deliver not simply a new political make-up for our country, but a transformational change that would deliver tangible improvements for communities in all parts of this country. The Party of Wales has agreed to withdraw my name now and allow Labour's nomination through today in exchange for a number of concessions for people. We are not interested in ministerial cars or seats at someone else's Cabinet table. We are interested in implementing our programme, which was designed to improve people's lives. We've secured the beginning of the end of the postcode lottery for new health treatments and medicines. Plaid Cymru's actions will result in a national infrastructure commission that will help to rebuild our economy. It will also provide the means by which we can support the steel industry, through the procurement policy that we argued for strongly during the election. There will be affordable childcare for all from the age of three, returning what has been cut from families in places like the Rhondda, and this will happen because Plaid Cymru secured it. There will be extra apprenticeship places. These policy gains, among others, have been achieved in parallel with our insistence on the establishment of a new political culture. From the Party of Wales's perspective, this agreement shows that we intend to be an opposition clear in our goals and in our priorities. Events last week show that we are prepared to use our mettle if and when that is needed. Plaid Cymru has never, and never will contemplate doing a deal that allows UKIP into power. Under my leadership, the same goes for the Tories. I've always said that, and that position has not, at any stage, changed. | Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Nid yw hyn heddiw'n ymwneud â chlymbleidio. Pleidlais untro yw hon heddiw i ganiatáu i enwebiad Llafur basio. Os yw'r blaid honno'n credu bod eu bwlio yr wythnos diwethaf yn atal Plaid Cymru rhag pleidleisio mewn ffordd debyg yn y dyfodol, i'ch dwyn i gyfrif, yna meddyliwch eto. Nid yw'n ddrwg gennyf am yr hyn a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf a byddaf yn ei wneud eto os oes rhaid er mwyn gwneud i Lafur sylweddoli eu bod yn Llywodraeth leiafrifol. Yr hyn a welsom yr wythnos diwethaf gan y blaid honno oedd haerllugrwydd a hunanfoddhauster, a'r hyn a arddangoswyd oedd ymdeimlad o hawl. Digwyddodd y bleidlais honno am eu bod wedi gwrthod oedi'r trafodion am un wythnos yn unig er mwyn gallu cynnal trafodaethau ystyrlon. Wel, fe gawsom ein hwythnos i siarad, ond bu'n rhaid cael peth drama i gyrraedd yno. Ni fyddwn yn anghofio'r modd y cawsom ein pardduo gan Lafur yr wythnos diwethaf. Roedd yr Aelodau Seneddol, Aelodau'r Cynulliad a'r cyrff cysylltiedig â Llafur a geisiodd awgrymu ein bod wedi dod i gytundeb â'r asgell dde a rhai pellach i'r dde yn anghywir. Mae ethol Prif Weinidog Cymru heddiw yn profi nad oedd unrhyw gytundeb ac rwy'n edrych ymlaen at eich gweld yn tynnu eich geiriau yn ôl. A ydych yn ddigon mawr i gyfaddef eich bod yn anghywir? Nid yw'r trefniant rydym wedi'i gyrraedd heddiw yn golygu bod Plaid Cymru yn cefnogi'r Llywodraeth leiafrifol hon na'i harweinydd. Rydym yn caniatáu iddo gael ei ethol yn Brif Weinidog, ond nid cefnogaeth yw hynny. Ni chawsom amser i ystyried a thrafod y materion mwyaf anodd. Ni chafwyd unrhyw gynnydd ar feysydd polisi fel llwybr du neu lwybr glas yr M4, mesurau manwl i achub y diwydiant dur, pleidleisio teg na chyllid myfyriwr, er enghraifft. Byddwn wedi hoffi pe baem wedi gallu sicrhau ymrwymiad tuag at ganolfan arloesi dur, ysgol feddygol ym Mangor, ysgol filfeddygol yn Aberystwyth a choleg sgiliau adeiladu gwyrdd yn y Cymoedd. Unwaith eto, nid oedd y cyfyngiadau amser yn caniatáu i ni ystyried cynigion manwl ynghylch y prosiectau hynny. Fel y brif wrthblaid, byddwn yn dychwelyd at y materion hynny drwy'r gyllideb a'r cyfryngau eraill sydd ar gael i ni. Gofynnaf i'r Prif Weinidog a'i blaid roi amser rhwng nawr a phleidlais y gyllideb gyntaf i ystyried sut y gellir datrys y blaenoriaethau hyn i ni lle y ceir anghytuno rhwng ein pleidiau. Yn ystod etholiadau diweddar y Cynulliad, roedd Plaid Cymru yn sefyll dros newid: newid a fyddai'n sicrhau nid yn unig cyfansoddiad gwleidyddol newydd ar gyfer ein gwlad, ond newid trawsffurfiol a fyddai'n sicrhau gwelliannau pendant i gymunedau ym mhob rhan o'r wlad hon. Mae Plaid Cymru wedi cytuno i dynnu fy enw yn ôl yn awr a chaniatáu i enwebiad Llafur gael ei basio heddiw yn gyfnewid am nifer o gonsesiynau i bobl. Nid oes gennym ddiddordeb mewn ceir gweinidogol neu seddau wrth fwrdd Cabinet rhywun arall. Yr hyn sydd o ddiddordeb i ni yw gweithredu ein rhaglen a gynlluniwyd i wella bywydau pobl. Rydym wedi sicrhau dechrau'r diwedd ar y loteri cod post ar gyfer triniaethau iechyd a meddyginiaethau newydd. Bydd camau gweithredu Plaid Cymru yn arwain at gomisiwn seilwaith cenedlaethol a fydd yn helpu i ailadeiladu ein heconomi. Bydd hefyd yn darparu modd i ni allu cefnogi'r diwydiant dur, drwy'r polisi caffael y buom yn dadlau'n gryf drosto yn ystod yr etholiad. Bydd gofal plant fforddiadwy ar gael i bawb o dair oed ymlaen, gan ddychwelyd yr hyn a dorrwyd i deuluoedd mewn llefydd fel y Rhondda, a bydd hyn yn digwydd am fod Plaid Cymru wedi'i sicrhau. Bydd yna leoedd prentisiaeth ychwanegol. Cyflawnwyd yr enillion polisi hyn, ymhlith eraill, ochr yn ochr â'n pwyslais ar sefydlu diwylliant gwleidyddol newydd. O bersbectif Plaid Cymru, mae'r cytundeb hwn yn dangos ein bod yn bwriadu bod yn wrthblaid sy'n glir ynglŷn â'n nodau a'n blaenoriaethau. Dengys digwyddiadau yr wythnos diwethaf ein bod yn barod i wneud ein gorau glas os a phan fo'i angen. Nid yw Plaid Cymru erioed wedi, ac nid yw byth yn mynd i ystyried dod i gytundeb a fyddai'n caniatáu i UKIP ddod i rym. O dan fy arweinyddiaeth i, mae'r un peth yn wir am y Torïaid. Rwyf bob amser wedi dweud hynny, ac nid yw'r safbwynt hwnnw wedi newid ar unrhyw adeg. |
Why were you talking to us last week? | Pam oeddech chi'n siarad â ni yr wythnos diwethaf? |
In this new term, Plaid Cymru will be the most effective opposition this National Assembly has ever seen. We will take our responsibilities seriously and we will be constructive. Much has been written and spoken about in relation to political alignment in the past week or so; in that respect, people need to know that the only card that Plaid Cymru will play will be the Wales card, and we will play it shamelessly. Our driving ambition is to build a successful nation, and that overriding aim will guide our actions at every stage in this Assembly and beyond. Last week, this National Assembly came to life in a way that we've not seen in the best part of two decades. It is my hope that the new Party of Wales team will breathe life into Welsh democracy that will be felt throughout our country for years to come. Watch this space. [Applause.] | Yn y tymor newydd hwn, Plaid Cymru fydd yr wrthblaid fwyaf effeithiol a welodd y Cynulliad Cenedlaethol hwn erioed. Fe fyddwn o ddifrif ynglŷn â'n cyfrifoldebau ac fe fyddwn yn adeiladol. Mae llawer wedi'i ysgrifennu a'i ddweud mewn perthynas ag ymochri gwleidyddol yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf; yn hynny o beth, mae angen i bobl wybod mai'r unig gerdyn y bydd Plaid Cymru yn ei chwarae fydd cerdyn Cymru, a byddwn yn ei chwarae heb unrhyw gywilydd. Ein huchelgais ysgogol yw adeiladu cenedl lwyddiannus, a bydd y nod pennaf hwnnw yn arwain ein camau gweithredu ar bob cam yn y Cynulliad hwn a thu hwnt. Yr wythnos diwethaf, daeth y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn fyw mewn ffordd na welsom yn y rhan orau o ddau ddegawd. Fy ngobaith yw y bydd tîm newydd Plaid Cymru yn anadlu bywyd i mewn i ddemocratiaeth Cymru a fydd i'w deimlo ledled ein gwlad am flynyddoedd i ddod. Gwyliwch y gofod hwn. [Cymeradwyaeth.] |
Andrew R.T. Davies, leader of the Welsh Conservatives. | Andrew R.T. Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. |
Thank you, Presiding Officer, and if I could, first of all, begin by congratulating your good self on assuming the Presiding Officer's role, and, indeed, the Deputy Presiding Officer, Ann Jones, on winning the ballot last week. I'm sure we are in safe hands - good hands - and ultimately you will map out your own very distinct way of running the Assembly's affairs and standing up, as you both said in your acceptance speeches, for the backbenchers, but indeed for all Assembly Members in making this institution the exemplar that we all want it to be. Indeed, I'd also endorse what the First Minister said about the other candidates who put themselves forward for the Presiding Officer role and, indeed, DPO role, in that both of them are champions of this institution - Dafydd Elis-Thomas in the three years that he served in the Chair, and John Griffiths, who has served, in his time, in Government, but also from his time on the backbenches knows exactly what is required of the offices that you both assumed, and I know that we would have had equally good candidates. But, democracy spoke, and I wish you both well in your endeavours over the next five years. I do congratulate you, First Minister, on assuming the title of First Minister today. I do recognise the point that you made in particular that, obviously, you have not got a majority here, and I think that it was very pertinent of you to make that point, and last week's endeavours in this Chamber clearly showed that. I have to say I've never seen such a glum looking backbench, to be honest with you, here today, especially when the opposition leader was speaking. I think a lot of them were thinking, 'What has gone on over the last couple of days?', but it's nice to see I've put a smile on some of their faces here today. But it is important that now, over the next 100 days, you do map out what your Government is going to seek to achieve. I would have much preferred a different outcome, but I respect the electorate and what they decided to do on 5 May. They returned you, not with a majority, but with the largest number of seats here and, ultimately, it is your right to form a Government and see whether you can put a package together that can enjoy the support of this Chamber. We will, from the benches here, hold you to account on each and every corner that you try and turn, but we will also seek to be constructive in the way we engage and debate on the points that need to be brought forward. Listening to the talk from the leader of the opposition about turning the corner and making a new politics, there was that opportunity last week but, again, sadly, it's Groundhog Day where Plaid have just fallen into line with the Labour Party and not chosen to try and develop a new form of politics here in Wales. There are some key requirements of you in the first 100 days, First Minister, in particular around some of the key policy areas. Staff shortages within the NHS in particular is something that the Government does need to map out. You did allude to this in your statement. I can remember, in the last Assembly, when an initiative was brought forward by the previous Welsh Labour Government to deal with these staff shortages, and here we are some four years on with some of the problems - well, many of the problems - still facing the NHS, as was identified at Llandudno Junction last week, but all across the north Wales coast, where GP surgeries are handing their notices back in to Betsi Cadwaladr and there is real danger that some patients might find themselves without provision for GP surgeries. So, it is vital that you bring forward a strategy to say how you're going to deal with these situations that are developing across the whole of the Welsh NHS. I also believe that it is incumbent upon you to map out exactly what your thoughts are on local government, given that it was such a central plank of your previous Government's reform package that you wanted to do away with many local authorities across Wales. We know that those elections face us next year, and I do think that, at your earliest opportunity, I hope that the Government will bring forward a statement to clearly map out and clarify what this new Government's thinking is on the format and mapping of local government going forward. Also, on infrastructure projects - large infrastructure projects - it is important that some clarity is brought around the debate on the M4 relief road - blue or black route or no route at all. This is an opportunity now for a new Government to map out and press the green light on what the option is. You as First Minister have put a huge amount of personal capital into the black route, and I think it is now incumbent on you to come forward and explain quite clearly how your new Government will take forward those proposals around Newport, if indeed they go forward at all. I also would hope that, in the next couple of weeks, and ideally next week, a statement could be brought forward to clarify exactly what the arrangements are between you and Plaid. You did highlight some of the areas where co-operation would be working. In particular, for my interest - I'll be clear - I'd like clarity around how the committees will be working that you've set up and what impact those committees will have on Government policy in particular, especially as you are charged with delivering that policy. Or will they just be reference points? So, I do hope that you will bring forward a statement as a matter of urgency so that we can put the questions to you to seek clarity as to how that agreement might unfold. Is it time limited? Who will be the representatives? You said it will be a Minister from your party - . Will it be an elected Member from Plaid Cymru or will it just be a Plaid Cymru appointee? These are all areas of accountability and moving into the field of accountability, with the Wales Bill announced in the Queen's Speech today, it is vital that we do work together to actually deliver a Wales Bill that will actually deliver the responsibilities back to this institution, that does make it more accountable, that does reinforce Welsh democracy and that does command the confidence of the people of Wales in that journey that the Wales Bill has to undertake through Westminster but, importantly, the role that the Presiding Officer will take in making sure that those negotiations are clear and robust and ultimately have the outcome that we would all be seeking in this fifth term of the Assembly. So, I do wish you well, First Minister, but there are many, many challenges ahead of us. I, like you, believe that the Welsh people, as entrepreneurial and as talented as people anywhere else in the United Kingdom - indeed, anywhere else you will find the world - . The one issue that I think we can work quite collaboratively together on is the steel crisis that has obviously taken so much time, and rightly taken so much time, over the last weeks and months, because we must work across Governments and across parties to secure a successful sale of the Tata Steel assets so that communities can be protected, jobs can be protected and, ultimately, we do have a secure steel-making capacity here, going forward, that is profitable and is invested in the communities the length and breadth of Wales. So, I congratulate you, First Minister; I wish you well, but ultimately, I don't wish you too much well, because of the politics of all this. [Applause.] | Diolch i chi, Lywydd, ac os caf ddechrau, yn gyntaf oll, drwy eich llongyfarch chi ar ymgymryd â rôl y Llywydd, ac yn wir, y Dirprwy Lywydd, Ann Jones, ar ennill y bleidlais yr wythnos diwethaf. Rwy'n siŵr ein bod mewn dwylo diogel - dwylo da - ac yn y pen draw, fe fyddwch yn ffurfio eich ffordd unigryw eich hun o gynnal materion y Cynulliad ac yn sefyll dros Aelodau'r meinciau cefn fel y dywedodd y ddwy ohonoch yn eich areithiau derbyn, ac yn wir, dros holl Aelodau'r Cynulliad er mwyn gwneud y sefydliad hwn yr esiampl rydym i gyd yn awyddus iddo fod. Yn wir, carwn hefyd gefnogi'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am yr ymgeiswyr eraill a ymgeisiodd am rôl y Llywydd a rôl y Dirprwy Lywydd, yn yr ystyr fod y ddau ohonynt yn hyrwyddwyr y sefydliad hwn. Mae Dafydd Elis-Thomas yn y tair blynedd a dreuliodd yn y Gadair, a John Griffiths, sydd wedi gwasanaethu yn y Llywodraeth yn ei dro, ac o'i amser ar y meinciau cefn, yn gwybod yn union beth sy'n ofynnol o'r swyddi y mae'r ddwy ohonoch wedi'u cael, ac rwy'n gwybod y byddem wedi cael ymgeiswyr yr un mor dda. Ond llefarodd democratiaeth, a dymunaf yn dda i'r ddwy ohonoch yn eich ymdrechion dros y pum mlynedd nesaf. Rwy'n eich llongyfarch chi, Brif Weinidog, ar gael eich gwneud yn Brif Weinidog Cymru heddiw. Rwy'n cydnabod y pwynt a wnaethoch yn benodol nad oes gennych fwyafrif yma, yn amlwg, ac rwy'n meddwl ei bod yn gymwys iawn eich bod wedi gwneud y pwynt hwnnw, ac roedd ymdrechion yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon yn dangos hynny'n glir. A bod yn onest gyda chi, rhaid i mi ddweud nad wyf erioed wedi gweld mainc gefn yn edrych mor ddigalon, yma heddiw, yn enwedig pan oedd arweinydd yr wrthblaid yn siarad. Rwy'n credu bod llawer ohonynt yn meddwl, 'Beth sydd wedi digwydd dros y diwrnodau diwethaf?', ond mae'n braf gweld fy mod wedi rhoi gwên ar wynebau rhai ohonynt yma heddiw. Ond mae'n bwysig eich bod yn awr, dros y 100 diwrnod nesaf, yn nodi'r hyn y mae eich Llywodraeth yn mynd i geisio ei gyflawni. Byddai'n llawer gwell gennyf fod wedi cael canlyniad gwahanol, ond rwy'n parchu'r etholwyr a'r hyn y penderfynasant ei wneud ar 5 Mai. Maent wedi eich dychwelyd, nid â mwyafrif, ond gyda'r nifer fwyaf o seddi yma ac yn y pen draw, eich hawl yw ffurfio Llywodraeth a gweld a allwch roi pecyn at ei gilydd sy'n gallu denu cefnogaeth y Siambr hon. Ar y meinciau yma, byddwn yn eich dwyn i gyfrif ar bob cam o'r ffordd, ond byddwn hefyd yn ceisio bod yn adeiladol yn y ffordd y byddwn yn ymgysylltu ac yn dadlau ar y pwyntiau sydd angen eu dwyn gerbron. Wrth wrando ar yr hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid am droi'r gornel a chreu gwleidyddiaeth newydd, cafwyd y cyfle hwnnw yr wythnos diwethaf, ond unwaith eto, yn anffodus, dyma hanes yn ailadrodd eto gyda Phlaid Cymru newydd ochri â'r Blaid Lafur, a heb ddewis ceisio datblygu ffurf newydd ar wleidyddiaeth yma yng Nghymru. Mae rhai gofynion allweddol yn eich wynebu yn y 100 diwrnod cyntaf, Brif Weinidog, yn enwedig mewn perthynas â rhai o'r meysydd polisi allweddol. Mae prinder staff yn y GIG yn arbennig yn rhywbeth y mae angen i'r Llywodraeth ei nodi. Fe gyfeirioch at hyn yn eich datganiad. Gallaf gofio, yn y Cynulliad diwethaf, pan gyflwynwyd menter gan y Llywodraeth Lafur flaenorol i ymdrin â phrinder staff, a dyma ni, bedair blynedd yn ddiweddarach gyda rhai o'r problemau - wel, llawer o'r problemau - yn dal i wynebu'r GIG, fel y nodwyd yng Nghyffordd Llandudno yr wythnos diwethaf, ond ar draws arfordir gogledd Cymru, lle mae meddygfeydd meddygon teulu yn dychwelyd eu contract i Betsi Cadwaladr ac mae perygl gwirioneddol y gallai rhai cleifion fod heb ddarpariaeth meddygfa. Felly, mae'n hanfodol eich bod yn cyflwyno strategaeth i ddweud sut rydych yn mynd i ymdrin â'r sefyllfaoedd hyn sy'n datblygu ar draws y GIG yng Nghymru yn ei gyfanrwydd. Rwyf hefyd yn credu ei bod yn ddyletswydd arnoch i nodi'n union beth yw eich syniadau ynglŷn â llywodraeth leol, o ystyried bod eich awydd i gael gwared ar lawer o awdurdodau lleol ledled Cymru yn elfen mor ganolog o becyn diwygio eich Llywodraeth flaenorol. Gwyddom fod yr etholiadau hynny'n ein hwynebu y flwyddyn nesaf, ac rwy'n credu, ar y cyfle cyntaf, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno datganiad yn nodi'n glir ac yn egluro meddylfryd y Llywodraeth newydd hon ar fformat a dull o fapio llywodraeth leol yn y dyfodol. Hefyd, ar brosiectau seilwaith - prosiectau seilwaith mawr - mae'n bwysig cyflwyno rhywfaint o eglurder ynghylch y ddadl ar lwybr lliniaru'r M4 - y llwybr du neu las neu ddim llwybr o gwbl. Dyma gyfle yn awr i Lywodraeth newydd fapio a rhoi'r golau gwyrdd i'r opsiwn y mae'n ei ddewis. Rydych chi fel Prif Weinidog Cymru wedi rhoi llawer iawn o gefnogaeth bersonol i'r llwybr du, ac rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnoch yn awr i ddod ymlaen ac esbonio'n glir iawn sut y bydd eich Llywodraeth newydd yn bwrw ymlaen â'r cynigion hynny o amgylch Casnewydd, os ydynt yn mynd i gael eu datblygu o gwbl. Yn yr ychydig wythnosau nesaf, ac yn ystod yr wythnos nesaf yn ddelfrydol, rwy'n gobeithio hefyd y gellid cyflwyno datganiad i egluro'n union beth yw'r trefniadau rhyngoch chi a Phlaid Cymru. Fe dynnoch sylw at rai o'r meysydd lle y byddai cydweithio yn gweithio. Yn benodol, o ran diddordeb - fe fyddaf yn glir - hoffwn eglurder ynglŷn â sut y bydd y pwyllgorau a sefydlwyd gennych yn gweithio a pha effaith a gaiff y pwyllgorau hynny ar bolisi Llywodraeth yn benodol, yn enwedig am mai chi sy'n gyfrifol am gyflawni'r polisi hwnnw. Neu ai cyfeirbwyntiau'n unig fydd y rhain? Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn cyflwyno datganiad fel mater o frys i ni allu gofyn y cwestiynau i chi er mwyn ceisio eglurder o ran sut y gallai'r cytundeb hwnnw ddatblygu. A oes terfyn amser iddo? Pwy fydd y cynrychiolwyr? Fe ddywedoch y bydd yn Weinidog o'ch plaid chi - . A fydd yn Aelod etholedig o Blaid Cymru neu ai wedi'i benodi gan Blaid Cymru yn unig? Mae'r rhain i gyd yn feysydd atebolrwydd a chan symud i faes atebolrwydd, gyda'r Bil Cymru a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines heddiw, mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gyflwyno Bil Cymru a fydd mewn gwirionedd yn cyflwyno'r cyfrifoldebau yn ôl i'r sefydliad hwn, i'w wneud yn fwy atebol, i atgyfnerthu democratiaeth Cymru ac i ennyn hyder pobl Cymru yn nhaith Bil Cymru drwy San Steffan, ond yn bwysig, y rhan a fydd gan y Llywydd yn gwneud yn siŵr fod y trafodaethau hynny'n glir a chadarn ac yn y pen draw yn arwain at y canlyniad y byddem i gyd yn ei geisio ym mhumed tymor y Cynulliad. Felly, rwy'n dymuno'n dda i chi, Brif Weinidog, ond mae llawer iawn o heriau o'n blaenau. Rwyf fi, fel chithau, yn credu bod pobl Cymru yr un mor entrepreneuraidd ac mor dalentog â phobl yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig - yn wir, yn unrhyw le arall yn y byd - . Yr un mater rwy'n meddwl y gallwn gydweithio'n eithaf cydweithredol arno yw'r argyfwng dur sydd yn amlwg wedi mynd â chymaint o amser, ac mae'n iawn ei fod wedi cymryd cymaint o amser, dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, oherwydd rhaid i ni weithio ar draws Llywodraethau ac ar draws y pleidiau i sicrhau gwerthiant llwyddiannus asedau Tata Steel fel y gellir diogelu cymunedau, diogelu swyddi ac yn y pen draw, fel bod gennym gapasiti gwneud dur sicr yma i'r dyfodol, sy'n broffidiol a bod cymunedau ar hyd a lled Cymru yn buddsoddi yn hynny. Felly, rwy'n eich llongyfarch, Brif Weinidog; dymunaf yn dda i chi, ond yn y pen draw, nid wyf yn dymuno gormod o dda i chi, oherwydd gwleidyddiaeth hyn i gyd. [Cymeradwyaeth.] |
Llywydd, like my predecessors in their statements this afternoon, I should like to congratulate you on assuming the office of Presiding Officer. I did, of course, second your opponent, Dafydd Elis-Thomas, and the curse of Hamilton struck again. But I nevertheless endorse the choice of my fellow Members of this Assembly, and I can promise you that, in spite of the start that we've made today with the point of order from my honourable friend, Mark Reckless, we do not intend to be a disruptive influence in this Assembly, but to be very constructive in our contributions to it. UKIP is, of course, a monarchist party, but we did oppose the coronation of King Carwyn, because we thought a vote should take place. And it is vital, I believe - and I think, in this respect, we can make common cause with Plaid Cymru - that Wales is governed not by a party that thinks it has a right to rule by some kind of divine right, and UKIP, as an opposition party, does intend to oppose that which needs to be opposed. The First Minister said in his statement that the Welsh people have asked for a Labour Government in the results of this election. Now, I don't know whether he has actually looked at the results in Wales a few days ago, but Labour got only 34.7 per cent of the vote in the constituency section and only 31.5 per cent of the vote on the regional lists. So, two thirds of the people of Wales voted against Labour in the Assembly elections this year. So, that is certainly no mandate, in spite of the imbalance of seats in comparison to the percentage of the votes, for a Labour Government, and therefore it ought to be inclusive and not just inclusive to the extent of doing deals with Plaid Cymru, but also to involve other minority parties in this place, not least my own UKIP, because we do have seven AMs and they deserve to be treated with respect. Actually, what Wales voted for a few days ago was change, not the status quo, and that's why I regret the role that Plaid Cymru have played over the last few days. Kirsty, as well, has managed to prop up this tottering administration. They have frustrated the desire of the Welsh people to bring about change. In Brecon and Radnor, 92 per cent of the electorate voted against Labour and yet, she actually confirmed the First Minister in place. In the Rhondda, there was a stunning result for Leanne Wood, because Leighton Andrews's 63 per cent of the vote in the previous election was converted to 36 per cent of the vote in this election. That was certainly no vote of confidence in the Labour Party, and I'm surprised, therefore, that, having had that stunning result in the Rhondda, she actually betrayed the interests of the voters who put her where she is for that constituency and did the opposite of what they wanted. So, I'm afraid that these two ladies have just made themselves political concubines in Carwyn's harem. What a gruesome prospect that must be. Let's ask ourselves what reward they have obtained for this inauspicious position. What have they had in reward for the sacrifice of their political virtue? Leanne Wood has spoken many times of the need for a new dawn in Welsh politics and, indeed, that was possible a few days ago, as we thought that the opposition parties, taken together, might be able to force a new deal, but sadly that didn't prove to be the case. Instead of a new dawn, we've now got a total eclipse, because instead of having decisions made in full transparency, we've got a series of shadowy committees that will come together in dodgy deals behind the scenes - [Interruption.] This is the way things are going to go in the future - doing dodgy deals to exclude other minority parties in this Chamber. The deal that has been done insofar as - [Interruption.] | Lywydd, fel fy rhagflaenwyr yn eu datganiadau y prynhawn yma, hoffwn eich llongyfarch ar ymgymryd â swydd y Llywydd. Wrth gwrs, eiliais eich gwrthwynebydd, Dafydd Elis-Thomas, ac fe darodd melltith Hamilton eto. Serch hynny rwy'n cymeradwyo dewis fy nghyd-Aelodau yn y Cynulliad hwn, a gallaf addo i chi, er gwaethaf y dechrau a wnaethom heddiw gyda'r pwynt o drefn gan fy nghyfaill anrhydeddus, Mark Reckless, nid ydym yn bwriadu bod yn ddylanwad aflonyddgar yn y Cynulliad hwn, ond yn hytrach, yn adeiladol iawn yn ein cyfraniadau iddo. Mae UKIP, wrth gwrs, yn blaid freniniaethol, ond fe wnaethom wrthwynebu coroni Brenin Carwyn, am ein bod yn credu y dylid cynnal pleidlais. Ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol - ac yn hyn o beth rwy'n meddwl bod gennym rywfaint yn gyffredin â Phlaid Cymru - fod Cymru'n cael ei llywodraethu nid gan blaid sy'n credu bod ganddi hawl i reoli drwy ryw fath o hawl ddwyfol, ac mae UKIP, fel gwrthblaid, yn bwriadu gwrthwynebu'r hyn sydd angen ei wrthwynebu. Dywedodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad fod pobl Cymru wedi gofyn am Lywodraeth Lafur yng nghanlyniadau'r etholiad. Nawr, nid wyf yn gwybod a yw wedi edrych yn iawn ar y canlyniadau yng Nghymru ychydig ddyddiau'n ôl, ond 34.7 y cant o'r bleidlais yn unig a gafodd Llafur yn yr etholaethau a 31.5 y cant yn unig o'r bleidlais ar y rhestrau rhanbarthol. Felly, pleidleisiodd dwy ran o dair o bobl Cymru yn erbyn y Blaid Lafur yn etholiadau'r Cynulliad eleni. Felly, yn sicr nid yw hwnnw'n fandad i Lywodraeth Lafur, er gwaethaf diffyg cydbwysedd y seddi o'i gymharu â chanran y pleidleisiau, ac felly dylai fod yn gynhwysol, ac nid cynhwysol yn unig i'r graddau ei bod yn dod i gytundeb â Phlaid Cymru, ond hefyd i gynnwys pleidiau lleiafrifol eraill yn y lle hwn, nid yn lleiaf fy mhlaid fy hun, UKIP, gan fod gennym saith Aelod Cynulliad ac maent yn haeddu cael eu trin â pharch. A dweud y gwir, yr hyn y pleidleisiodd Cymru drosto ychydig ddyddiau'n ôl oedd newid, nid y status quo, a dyna pam rwy'n gresynu at y rôl y mae Plaid Cymru wedi chwarae dros y dyddiau diwethaf. Mae Kirsty, hefyd, wedi llwyddo i gynnal y weinyddiaeth sigledig hon. Maent wedi llyffetheirio awydd pobl Cymru i greu newid. Ym Mrycheiniog a Maesyfed, pleidleisiodd 92 y cant o'r etholwyr yn erbyn Llafur ac eto, fe sicrhaodd hi fod y Prif Weinidog yn cadw ei le mewn gwirionedd. Yn y Rhondda, cafwyd canlyniad syfrdanol i Leanne Wood, wrth i gyfran Leighton Andrews o'r bleidlais yn yr etholiad cynt, sef 63 y cant, gael ei newid yn 36 y cant o'r bleidlais yn yr etholiad hwn. Yn sicr, nid oedd honno'n bleidlais o hyder yn y Blaid Lafur, ac rwy'n synnu, felly, ei bod hi mewn gwirionedd, ar ôl cael canlyniad syfrdanol yn y Rhondda, wedi bradychu lles y pleidleiswyr a'i rhoddodd lle y mae dros yr etholaeth honno a gwneud i'r gwrthwyneb i'r hyn roeddent ei eisiau. Felly, rwy'n ofni bod y ddwy foneddiges hon newydd wneud eu hunain yn gywelyesau gwleidyddol yn harîm Carwyn. Am brofiad erchyll. Gadewch i ni ofyn i ni'n hunain pa wobr y maent wedi'i chael am fod mewn sefyllfa mor anffodus. Beth a gawsant yn wobr am aberthu eu rhinwedd wleidyddol? Mae Leanne Wood wedi siarad lawer gwaith am yr angen am wawr newydd yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yn wir, roedd hynny'n bosibl ychydig ddyddiau'n ôl, wrth i ni feddwl y gallai'r gwrthbleidiau, gyda'i gilydd, orfodi bargen newydd, ond yn anffodus ni ddigwyddodd hynny. Yn hytrach na gwawr newydd, cawsom ddiffyg llwyr ar yr haul, oherwydd yn hytrach na bod penderfyniadau'n cael eu gwneud mewn tryloywder llwyr, mae gennym gyfres o bwyllgorau dirgel a ddaw at ei gilydd i daro bargeinion amheus y tu ôl i'r llenni - [Torri ar draws.] Dyma sut y mae pethau'n mynd i fod yn y dyfodol - taro bargeinion amheus i wahardd pleidiau lleiafrifol eraill yn y Siambr hon. I'r graddau y gallwn - [Torri ar draws.] |
Allow the Member to continue his contribution. | Gadewch i'r Aelod barhau â'i gyfraniad. |
The deal that has been done insofar as we can divine the details from press releases is the greatest non-event in this country since the millennium bug. And, it's a shame that Leighton Andrews isn't here today to participate in this debate, because he got into some hot water in the last Assembly for referring to a 'cheap date' with Plaid Cymru. When you look at the list of demands or achievements that Plaid have managed to extort from Labour, then I'm afraid to say that Leanne Wood has proved to be a very cheap date indeed - [Assembly Members: 'Oh.'] - because the power she had in her hands, with assistance both from the Conservative group and from the UKIP group, has actually not been used to its full potential, and she could have got so much more from them. So, in the course of the next five years, UKIP will play, as I've said, a very constructive part in debate. I'm so sorry that Plaid Cymru take a bigoted approach to seven Assembly Members who have come here not to make posturing remarks - | I'r graddau y gallwn bennu ei fanylion o ddatganiadau i'r wasg, y cytundeb a wnaed yw'r digwyddiad mwyaf di-ddim yn y wlad hon ers byg y mileniwm. Ac mae'n drueni nad yw Leighton Andrews yma heddiw i gymryd rhan yn y ddadl hon, gan iddo fynd i helynt yn y Cynulliad diwethaf am gyfeirio at 'ddêt rhad' gyda Phlaid Cymru. Pan edrychwch ar y rhestr o alwadau neu gyflawniadau y mae Plaid Cymru wedi llwyddo i'w mynnu gan Lafur, rwy'n ofni bod Leanne Wood wedi bod yn ddêt rhad iawn yn wir - [Aelodau'r Cynulliad: '. O.'] - gan na chafodd y pŵer oedd ganddi yn ei dwylo, gyda chymorth y grŵp Ceidwadol a grŵp UKIP, ei ddefnyddio i'w lawn botensial, a gallai fod wedi cael cymaint mwy ganddynt. Felly, yn ystod y pum mlynedd nesaf, fel y dywedais, bydd UKIP yn chwarae rhan adeiladol iawn yn y dadleuon. Rwy'n hynod o flin fod Plaid Cymru yn rhagfarnllyd eu hagwedd tuag at saith Aelod Cynulliad a ddaeth yma, nid i wneud sylwadau ymhongar - |
Can I just make the point here I don't think that any bigoted remarks have been made by anybody in this Chamber to date? | A gaf fi wneud y pwynt yma nad wyf yn credu bod unrhyw sylwadau rhagfarnllyd wedi'u gwneud gan unrhyw un yn y Siambr hon hyd yma? |
Well, Leanne Wood has said that she would not, in any circumstances, work with UKIP. That seems to me to be so exclusive a remark that it could easily be described as bigotry - that, you know, we are somehow untouchables. [Interruption.] Well, 15 per cent of the Welsh electorate don't think we're untouchables, because they vote for us, and that's an insult not to us, but to them. So, in the course of the next few weeks, we shall also be shining the searchlight on the areas that Andrew R.T. Davies referred to in his statement: on the health service, on the M4, and, particularly, on the steel industry. This is where the debate about the EU comes to the fore: the First Minister and Labour, as well as Plaid, are totally committed, of course, to the EU - not to mention the remaining Liberal Democrat - which actually makes the First Minister wholly impotent, which I suppose the members of his harem may be rather satisfied with, but the Welsh Government is unable, actually, to do anything very much to save the steel industry in this country, because we have no control over energy prices and we have no control over cheap Chinese steel being dumped upon our shores. That is why the recovery of powers from Brussels is vital, not just to Wales, but also to this Assembly, and, just as we believe in devolution of powers from Brussels to Westminster and from Westminster to Wales, that would strengthen this institution, and we should all want to have those powers so that we can exercise them in the best interests of the Welsh people. So, I congratulate the First Minister, although I wouldn't have voted for him, on assuming office, and I can assure him that we will make a positive contribution, not just to debate and discussion, but also to the development of policies that are in the interests of all the Welsh people. [Applause.] | Wel, mae Leanne Wood wedi dweud na fyddai'n gweithio gydag UKIP mewn unrhyw amgylchiadau. Mae hynny'n ymddangos i mi'n sylw mor wrthwynebus fel y gellid yn hawdd ei ddisgrifio fel rhagfarn - ein bod, wyddoch chi, rywsut yn anghyffyrddadwy. [Torri ar draws.] Wel, nid yw 15 y cant o etholwyr Cymru yn credu ein bod yn anghyffyrddadwy, am eu bod wedi pleidleisio drosom, ac mae hynny'n sarhad, nid arnom ni, ond arnynt hwy. Felly, yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, byddwn hefyd yn taflu goleuni ar y meysydd y cyfeiriodd Andrew R.T. Davies atynt yn ei ddatganiad: ar y gwasanaeth iechyd, ar yr M4, ac yn arbennig, ar y diwydiant dur. Dyma lle y mae'r ddadl am yr UE yn dod i'r amlwg: mae'r Prif Weinidog a'r Blaid Lafur, yn ogystal â Phlaid Cymru, yn gwbl ymroddedig, wrth gwrs, i'r UE - heb sôn am y Democrat Rhyddfrydol sydd ar ôl - sy'n gwneud y Prif Weinidog yn gwbl ddiymadferth, ac mi dybiwn y byddai aelodau ei harem yn eithaf bodlon â hynny, ond nid yw Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn gallu gwneud fawr ddim i achub y diwydiant dur yn y wlad hon, am nad oes gennym unrhyw reolaeth dros brisiau ynni ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros ddur rhad o Tsieina yn cael ei ddadlwytho ar ein glannau. Dyna pam y mae adfer pwerau o Frwsel yn hanfodol, nid yn unig i Gymru, ond hefyd i'r Cynulliad hwn, ac yn union fel y credwn mewn datganoli pwerau o Frwsel i San Steffan ac o San Steffan i Gymru, byddai hynny'n cryfhau'r sefydliad hwn a dylem oll fod eisiau cael y pwerau hynny i ni allu eu defnyddio er lles gorau pobl Cymru. Felly, rwy'n llongyfarch y Prif Weinidog, er na fyddwn wedi pleidleisio drosto, ar gael y swydd, a gallaf ei sicrhau y byddwn yn gwneud cyfraniad cadarnhaol, nid yn unig mewn dadleuon a thrafodaethau, ond hefyd tuag at ddatblygu polisïau sydd er lles holl bobl Cymru. [Cymeradwyaeth.] |
The next item is a motion without notice to bring forward questions to the First Minister at the next Plenary meeting, which I intend to call for 1.30 p.m. next Tuesday afternoon, 24 May, subject to Her Majesty's approval of the First Minister's nomination. I call on Jane Hutt to formally move the motion. | Yr eitem nesaf yw cynnig heb rybudd i ddwyn ymlaen y cwestiynau i'r Prif Weinidog i'r Cyfarfod Llawn nesaf. Fy mwriad i yw galw'r cyfarfod hwnnw am 1.30 brynhawn dydd Mawrth nesaf, 24 Mai, yn amodol ar gymeradwyaeth Ei Mawrhydi o enwebiad y Prif Weinidog. Galwaf ar Jane Hutt i wneud y cynnig yn ffurfiol. |
The question is whether the proposal is agreed. Is there any objection? I see there is none, therefore the proposal is agreed, in accordance with Standing Order - the people moving my script are moving too quickly for their new Presiding Officer. It's in accordance with Standing Order 12.36. Therefore, the motion is agreed. | Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes yna unrhyw wrthwynebiad? Os nad oes, felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog - mae'r bobl yma sydd yn symud y sgript yma'n symud yn rhy gyflym i'w Llywydd newydd nhw. Rheol Sefydlog 12.36 oedd hwnnw. Felly, derbyniwyd y cynnig. |
In addition to First Minister's questions, I hope that we will be in a position at that meeting next week to elect members to the Business Committee and so begin the routine organisation of Plenary business. By that time, it's possible that the First Minister will have appointed Welsh Ministers. Members and the public will be informed of the agenda in the usual way, and that brings today's proceedings to a close. | Yn ogystal â chwestiynau i'r Prif Weinidog, gobeithiaf yr wythnos nesaf y byddwn mewn sefyllfa yn y cyfarfod i ethol aelodau i'r Pwyllgor Busnes a dechrau'r drefn arferol o fusnes y Cyfarfod Llawn. Erbyn hynny, mae'n bosibl y bydd y Prif Weinidog hefyd wedi penodi Gweinidogion Cymru. Bydd yr Aelodau a'r cyhoedd yn cael gwybod am yr agenda yn ffurfiol yn y ffordd arferol, a daw hynny â thrafodion i ben am y prynhawn yma. |
At this point, I don't want to rerun last week's contribution, so I think it would be better, in your own interest, to draw your remarks to a close now and for us to move on to the business at hand today. | Ar hyn o bryd, nid wyf eisiau ailadrodd cyfraniad yr wythnos diwethaf, felly rwy'n meddwl y byddai'n well, er eich lles eich hun, i chi ddirwyn eich sylwadau i ben nawr ac i ni symud ymlaen at y busnes sydd dan sylw heddiw. |
Certainly, Madam Presiding Officer. I merely wanted to reiterate that I meant no disrespect either to the Assembly or to any Member of it. I was trying to make a humorous point out of a serious issue. I realise that a sense of humour is an individual thing. I welcome what you said also about not wanting to chill the spontaneity of debate in this Chamber, and, indeed, respecting the rights of minority parties within it. | Wrth gwrs, Madam Lywydd. Y cwbl yr oeddwn i eisiau ei wneud oedd ailadrodd nad oeddwn i'n bwriadu cyfleu unrhyw amarch at y Cynulliad nac at unrhyw Aelod ohono. Roeddwn i'n ceisio gwneud pwynt doniol o fater difrifol. Rwy'n sylweddoli bod synnwyr digrifwch yn beth unigol. Croesawaf yr hyn a ddywedasoch hefyd am beidio â bod eisiau tarfu ar natur ddigymell y dadlau yn y Siambr hon, ac, yn wir, am barchu hawliau pleidiau lleiafrifol ynddi. |
I am about to chill the spontaneity of debate, and move on to next business. So, thank you for your contribution, and I now move on to First Minister's questions. | Rwyf ar fin tarfu ar natur ddigymell y dadlau, a symud ymlaen at y busnes nesaf. Felly, diolch i chi am eich cyfraniad, a symudaf ymlaen nawr at y cwestiynau i'r Prif Weinidog. |
Thank you for the question. May I welcome the Member, and each and every Member who will make their first contributions today? As part of the compact agreed with Plaid Cymru to move Wales forward, we will focus on increasing the number of GPs and health workers in the primary care sector in Wales. | Diolch am y cwestiwn. A gaf i, wrth gwrs, groesawu yr Aelod, a phob Aelod sydd yn mynd i wneud eu cyfraniadau cyntaf heddiw? Fel rhan o'r cytundeb i symud Cymru ymlaen, a gytunwyd gyda Phlaid Cymru, byddwn yn canolbwyntio ein ffocws ar gynyddu niferoedd y meddygon teulu a gweithwyr iechyd yn y sector gofal sylfaenol yng Nghymru. |
Thank you very much. I'm very pleased to hear that you acknowledge that there is a need to move on now to train doctors. Will those plans include looking at the provision for north Wales? Because the problems, as you know, are very serious in north Wales, and the need for doctors in hospitals and in rural surgeries is very great. Would you, therefore, be willing to move forward to create a business plan for a medical school for north Wales, in Bangor? My predecessor, Alun Ffred Jones, has started this work, using the expertise available in Bangor in order to move on with this scheme, and I would like you to commit today to making a business plan for this. Thank you. | Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn o glywed eich bod chi'n cydnabod bod angen yn awr symud ymlaen i hyfforddi meddygon. A fydd y cynlluniau yn cynnwys edrych ar y ddarpariaeth ar gyfer gogledd Cymru? Oherwydd mae'r problemau, fel y gwyddoch chi, yn ddybryd iawn yn y gogledd, a'r angen am feddygon yn yr ysbytai ac mewn meddygfeydd gwledig yn un dwys iawn. A fyddwch chi, felly, yn fodlon symud ymlaen rŵan i greu cynllun busnes ar gyfer ysgol feddygol i'r gogledd, ym Mangor? Mae fy rhagflaenydd, Alun Ffred Jones, wedi cychwyn ar y gwaith gan ddefnyddio'r arbenigedd sydd ym Mangor ar gyfer symud ymlaen gyda'r cynllun, a hoffwn eich gweld chi'n ymrwymo heddiw i greu cynllun busnes ar gyfer hyn. Diolch. |
That's something that we need to consider, of course, and I look forward to working under the terms of the agreement to ensure that we do move forward in ensuring that there are more workers in the care sector and more health workers more generally here in Wales. It's very important, of course, that we don't concentrate only on doctors, important as they are, but that we also look at ways of assisting all professions delivering care and health for our people. | Mae hwn yn rhywbeth i'w ystyried, wrth gwrs, ac rwy'n edrych ymlaen i weithio o dan dermau'r cytundeb, er mwyn sicrhau ein bod ni yn symud ymlaen i sicrhau bod mwy o weithwyr yn y sector gofal a hefyd weithwyr iechyd, wrth gwrs, yma yng Nghymru. Mae'n bwysig dros ben nad ydym ni'n canolbwyntio ddim ond ar ddoctoriaid, pwysig ag y maen nhw, ond yn ystyried ffyrdd i helpu pob proffesiwn sydd yn gweithredu gofal a hefyd iechyd i'n pobl. |
First Minister, training doctors is important to the future of our health services, but so is training more nurses, physios, radiographers and all other health professions. The workforce planning model that was used may no longer be fit for purpose today. As such, will you ask your new health Secretary to actually look at the workforce planning model to ensure it's fit for purpose and will recognise the change in societal needs and demands of service users and staff? And will this ensure that the training needs that all health professionals have, and what we have for our service, are appropriate? And will you ensure the funding is there to actually ensure the undergraduate places can deliver those training needs? | Brif Weinidog, mae hyfforddi meddygon yn bwysig i ddyfodol ein gwasanaethau iechyd, ond mae hynny'n wir hefyd am hyfforddi mwy o nyrsys, ffisiotherapyddion, radiograffyddion a'r holl broffesiynau iechyd eraill. Efallai nad yw'r model cynllunio'r gweithlu a ddefnyddiwyd yn addas i'w ddiben erbyn hyn. Fel y cyfryw, a wnewch chi ofyn i'ch Ysgrifennydd iechyd newydd edrych ar y model cynllunio'r gweithlu i sicrhau ei fod yn addas i'w ddiben ac y bydd yn cydnabod y newid i anghenion a gofynion cymdeithasol defnyddwyr gwasanaeth a staff? Ac a wnaiff hyn sicrhau bod yr anghenion hyfforddi sydd gan bob gweithiwr iechyd proffesiynol, a'r hyn sydd gennym ar gyfer ein gwasanaeth, yn briodol? Ac a wnewch chi sicrhau bod y cyllid ar gael i sicrhau y gall y lleoedd i israddedigion ddiwallu'r anghenion hyfforddi hynny? |
Indeed so, and I know that the new Minister will be looking at this as a matter of urgency as part of his portfolio to build on the work that has already been done. We know that training more professionals of all types in the health sector is important, but also recruiting them, because training them doesn't necessarily mean that they stay in Wales or indeed the UK. And, as the Member knows, we have been working to ensure that Wales is seen as a good country to work in, because we know that competition is fierce across Europe, and across the world, for medical professionals, and it's hugely important that we have a health service that is seen as an attractive place to work. | Gwnaf yn wir, a gwn y bydd y Gweinidog newydd yn ystyried hyn fel mater o frys yn rhan o'i bortffolio i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud. Rydym yn gwybod bod hyfforddi mwy o weithwyr proffesiynol o bob math yn y sector iechyd yn bwysig, ond hefyd eu recriwtio, gan nad yw eu hyfforddi o reidrwydd yn golygu eu bod yn aros yng Nghymru neu yn y DU yn wir. Ac, fel y mae'r Aelod yn gwybod, rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau bod Cymru'n cael ei hystyried yn wlad dda i weithio ynddi, gan ein bod yn gwybod bod y gystadleuaeth yn chwyrn ledled Ewrop, a ledled y byd, am weithwyr meddygol proffesiynol, ac mae'n hynod bwysig bod gennym ni wasanaeth iechyd sy'n cael ei ystyried yn lle deniadol i weithio ynddo. |
First Minister, the last Government's doctor recruitment campaign was not successful. That was clear from the fact that access to GPs across mid Wales is becoming more and more difficult. Can I ask you what your new coalition Government intends to do to specifically address the shortage of doctors in more isolated communities across Wales? | Brif Weinidog, nid oedd ymgyrch y Llywodraeth ddiwethaf i recriwtio meddygon yn llwyddiannus. Roedd hynny'n eglur o'r ffaith bod cael gweld meddygon teulu ar draws y canolbarth yn dod yn fwyfwy anodd. A gaf i ofyn i chi beth mae eich Llywodraeth glymblaid newydd yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael yn benodol â'r prinder meddygon mewn cymunedau mwy anghysbell ledled Cymru? |
Not having a junior doctors strike is a good start, I believe, and that's something that we're not proposing to do. But he will know, of course, that the mid Wales collaborative is looking very carefully at this - at the delivery of health service - not just in his area, but other areas across the middle of our country, and that work is progressing very well. And that is a model that I believe, as it's working successfully, can be adopted in other parts of Wales as well. | Mae peidio â chael streic meddygon iau yn ddechrau da, rwy'n credu, ac mae hynny'n rhywbeth nad ydym yn bwriadu ei wneud. Ond bydd yn gwybod, wrth gwrs, bod menter gydweithredol y canolbarth yn edrych yn ofalus iawn ar hyn - ar y ddarpariaeth o wasanaeth iechyd - nid yn unig yn ei ardal ef, ond mewn ardaloedd eraill ar draws canol ein gwlad, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo'n dda iawn. Ac mae hwnnw'n fodel y credaf, gan ei fod yn gweithio'n llwyddiannus, y gellir ei fabwysiadu mewn rhannau eraill o Gymru hefyd. |
The emphasis that the Welsh Government has given on access to GPs is to be welcomed, of course. Does the First Minister agree that we could encourage primary care practices to collaborate with local transport providers to encourage this even further, particularly in more remote areas? | Mae'r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar hwyluso gweld meddygon teulu i'w groesawu. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno y dylid annog practisys gofal cynradd i gydweithio gyda darparwyr trafnidiaeth lleol i'w hybu ymhellach fyth, yn enwedig mewn ardaloedd pellach allan? |
Yes, that makes sense. Of course, when there is a change in the health service, people are sometimes concerned because, perhaps, they can't travel easily, particularly in rural areas, and it is extremely important that health boards and, of course, individual practices ensure that they are able to make provision and operate a transport system that means that people can use their services. | Rwy'n credu bod hynny'n synhwyrol. Wrth gwrs, pan fydd yna newid mewn gwasanaeth yn y gwasanaeth iechyd, mae pobl yn pryderu weithiau o achos y ffaith, efallai, bod nhw'n ffaelu teithio'n rhwydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac mae'n bwysig dros ben bod y byrddau iechyd ac, wrth gwrs, practisys unigol yn sicrhau eu bod nhw'n gallu darparu a gweithredu systemau trafnidiaeth sy'n mynd i sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio'u gwasanaethau nhw. |
The national transport finance plan sets out our investment for transport infrastructure up to 2020. | Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi ein buddsoddiad ar gyfer seilwaith trafnidiaeth hyd at 2020. |
Thank you for that answer, First Minister. One of the key things in the election that was recently held for the Assembly in South Wales Central was the proposal for a Dinas Powys bypass. This has been much mooted over many years, and various reincarnations have been brought forward about policies and proposals to try and bypass the village of Dinas Powys. With the huge developments that are going on now in Barry - the waterfront development, with 2,000 houses - and recent applications in Sully being approved as well, the demand for this bypass is ever greater now than it has ever been. What proposals will the Welsh Government bring forward in this term so that the residents of Dinas Powys can feel confident that you will support an application for funding for a Dinas Powys bypass? | Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Un o'r pethau allweddol yn yr etholiad a gynhaliwyd yn ddiweddar ar gyfer y Cynulliad yng Nghanol De Cymru oedd y cynnig i gael ffordd osgoi ar gyfer Dinas Powys. Mae hyn wedi ei grybwyll yn aml dros flynyddoedd lawer, a chyflwynwyd fersiynau amrywiol o bolisïau a chynigion i geisio osgoi pentref Dinas Powys. Gyda'r datblygiadau enfawr sy'n digwydd yn y Barri nawr - datblygiad y glannau, â 2,000 o dai - a cheisiadau diweddar yn Sili yn cael eu cymeradwyo hefyd, mae'r galw am y ffordd osgoi hon yn fwy fyth nawr nag y bu erioed. Pa gynigion wnaiff Llywodraeth Cymru eu cyflwyno yn y tymor hwn fel y gall trigolion Dinas Powys deimlo'n hyderus y byddwch yn cefnogi cais am gyllid ar gyfer ffordd osgoi i Ddinas Powys? |
I'm familiar with the stretch of road, of course, and it is a busy stretch of road. It's a matter for the Vale of Glamorgan Council to consider. It wouldn't be a trunk road; it would be a road run by the local authority, but, of course, we'd be happy to examine any proposals that they might wish to bring forward. | Rwy'n gyfarwydd â'r darn hwn o ffordd, wrth gwrs, ac mae'n ddarn o ffordd prysur. Mater i Gyngor Bro Morgannwg ei ystyried yw hwn. Ni fyddai'n gefnffordd; byddai'n ffordd sy'n cael ei rhedeg gan yr awdurdod lleol, ond, wrth gwrs, byddem yn hapus i archwilio unrhyw gynigion yr hoffent eu cyflwyno. |
First Minister, the early borrowing facility of £500 million that the UK Government has announced in respect of an M4 relief road should, I believe, be available for whatever the Welsh Government thinks is the best solution for the problems on the M4 around Newport. Would you agree with me that, in line with the spirit of devolution, it should be up to Welsh Government to decide how to use that early borrowing facility? | Brif Weinidog, dylai'r cyfleuster benthyca cynnar o £500 miliwn y mae Llywodraeth y DU wedi ei gyhoeddi ar gyfer ffordd liniaru i'r M4, yn fy marn i, fod ar gael ar gyfer beth bynnag y mae Llywodraeth Cymru yn ei gredu yw'r ateb gorau i'r problemau ar yr M4 o amgylch Casnewydd. A fyddech chi'n cytuno â mi, yn unol ag ysbryd datganoli, mai Llywodraeth Cymru ddylai fod yn gyfrifol am benderfynu sut i ddefnyddio'r cyfleuster benthyca cynnar hwnnw? |
Well, the situation is this: the borrowing facility will be made available generally but early drawdown is possible for the M4. Of course, we wouldn't agree to a situation where we would see a permanent situation where there'd be strings attached to any borrowing powers that would be exercised, but that is the current situation - the money can only be used for the M4. | Wel, dyma'r sefyllfa: bydd y cyfleuster benthyca ar gael yn gyffredinol ond mae'n bosibl ei gael yn gynnar ar gyfer yr M4. Wrth gwrs, ni fyddem yn cytuno i sefyllfa lle byddem yn gweld sefyllfa barhaol lle byddai amodau'n gysylltiedig ag unrhyw bwerau benthyca a fyddai'n cael eu harfer, ond dyna'r sefyllfa bresennol - ar gyfer yr M4 yn unig y ceir defnyddio'r arian. |
Given the questioning from his own back benches, does the First Minister share my concern that, if he doesn't look at other options aside from the black route, we may find that no M4 relief road is built at all? | O ystyried y cwestiynau o'i feinciau cefn ei hun, a yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder, os na fydd yn ystyried dewisiadau eraill ac eithrio'r llwybr du, efallai y byddwn yn canfod nad oes unrhyw ffordd liniaru i'r M4 yn cael ei hadeiladu o gwbl? |
I think it's hugely important that there is a public inquiry. Without prejudging the issue, that is certainly my view. I think that public inquiry needs to be as broad as possible. It needs to be a public local inquiry, and I believe that that inquiry would need to look at a wide range of issues including alternative proposals. I think that's important so that the public can examine for themselves the advantages and disadvantages of the different projects. I would expect that inquiry to commence in the autumn and it would take around a year for the inquiry to come to a point where a decision can be made. | Rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig cael ymchwiliad cyhoeddus. Heb ragfarnu'r mater, dyna'n sicr yw fy marn i. Rwy'n meddwl bod angen i'r ymchwiliad cyhoeddus fod mor eang â phosibl. Mae angen iddo fod yn ymchwiliad cyhoeddus lleol, ac rwy'n credu y byddai angen i'r ymchwiliad ystyried amrywiaeth eang o faterion gan gynnwys cynigion amgen. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig fel y gall y cyhoedd archwilio drostynt eu hunain manteision ac anfanteision y gwahanol brosiectau. Byddwn yn disgwyl i'r ymchwiliad hwnnw gychwyn yn yr hydref a byddai'n cymryd tua blwyddyn i'r ymchwiliad ddod i bwynt pryd y gellid gwneud penderfyniad. |
First Minister, as well as considering infrastructure to support long-distance journeys, would you consider investment in infrastructure to support reducing car use for short-distance journeys? Around 20 per cent of car journeys are for journeys of less than a mile, and these add considerably to local congestion. At the end of the last Assembly term, the enterprise committee issued a call for stronger leadership and greater investment to implement the Active Travel (Wales) Act 2013. I know he's very proud of that Act. Would he consider how, with his Ministers, he can make sure that that Act reaches its potential and review its implementation to date? | Brif Weinidog, yn ogystal ag ystyried seilwaith i gefnogi teithiau pellter hir, a fyddech chi'n ystyried buddsoddi mewn seilwaith i gefnogi lleihau'r defnydd o geir ar gyfer teithiau pellter byr? Mae tua 20 y cant o deithiau mewn car am bellteroedd o lai na milltir, ac mae'r rhain yn ychwanegu'n sylweddol at dagfeydd lleol. Ar ddiwedd tymor diwethaf y Cynulliad, galwodd y pwyllgor menter am arweinyddiaeth gryfach a mwy o fuddsoddiad i roi Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ar waith. Gwn ei fod yn falch iawn o'r Ddeddf honno. A fyddai'n ystyried sut, gyda'i Weinidogion, y gall wneud yn siŵr bod y Ddeddf honno'n gwireddu ei photensial ac adolygu ei gweithrediad hyd yn hyn? |
Absolutely, and that's why, of course, we have the metro proposals. We know that roads cannot be the solution to everything; they must run in tandem with public transport improvements. That's what the metro in the south-east of Wales is intended to deliver. It's a model that we look to use in other parts of Wales, such as the north-east, in the future. Convenience of service, reliable trains, regular service - these are all ways in which we can encourage more people out of their cars. | Yn sicr, a dyna pam, wrth gwrs, mae gennym ni'r cynigion ar gyfer y metro. Rydym ni'n gwybod na all ffyrdd fod yn ateb i bopeth; mae'n rhaid iddyn nhw redeg ochr yn ochr â gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus. Dyna y bwriedir i'r metro yn y de-ddwyrain ei gyflawni. Mae'n fodel yr ydym yn bwriadu ei ddefnyddio mewn rhannau eraill o Gymru, fel y gogledd-ddwyrain, yn y dyfodol. Cyfleustra'r gwasanaeth, trenau dibynadwy, gwasanaeth rheolaidd - mae'r rhain i gyd yn ffyrdd y gallwn eu defnyddio i annog mwy o bobl allan o'u ceir. |
Diolch, Lywydd. I'd like to take this opportunity to pay tribute to Cardiff campaigner Annie Mulholland, who sadly passed away on Sunday after fighting a long battle with cancer. Annie was a vociferous campaigner for a new drugs and treatments fund to end the postcode lottery and the exceptionality clauses, which would mean that patients would no longer be forced to move to a different address or across the border to access the drugs or treatments that they need. It's a tribute to Annie's work that that unfair system will now come to an end. Can you confirm today that your Government will press ahead with establishing an independent panel to review the current system and that people who are affected by cancer will have an input and be involved in those changes from the outset? | Diolch, Lywydd. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r ymgyrchydd o Gaerdydd, Annie Mulholland, a fu farw ddydd Sul yn anffodus ar y ar ôl ymladd brwydr hir â chanser. Roedd Annie yn ymgyrchydd uchel ei chloch dros gronfa cyffuriau a thriniaethau newydd i roi terfyn ar y loteri cod post a'r cymalau eithriadolbeb, a fyddai'n golygu na fyddai cleifion yn cael eu gorfodi i symud i wahanol gyfeiriad neu ar draws y ffin mwyach i gael gafael ar y cyffuriau neu'r triniaethau sydd eu hangen arnynt. Mae'n deyrnged i waith Annie y bydd y system annheg honno yn dod i ben nawr. A allwch chi gadarnhau heddiw y bydd eich Llywodraeth yn bwrw ymlaen â sefydlu panel annibynnol i adolygu'r system bresennol ac y bydd pobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser yn gallu cael mewnbwn ac yn cael cymryd rhan yn y newidiadau hynny o'r cychwyn cyntaf? |
Can I first extend my sympathies to Annie's family? It's a very difficult time for them, I know. Yes, of course I can confirm that, under the terms of the compact that was reached between our parties, we will be looking, of course - . Well, we'll be introducing a new treatments fund, but, on top of that, we'll be looking at whether there is a better way to deal with individual patient funding requests and of course to see if there's a better word or better terminology that can be used - other than the word 'exceptional'. | A gaf i'n gyntaf gydymdeimlo â theulu Annie? Mae'n gyfnod anodd iawn iddyn nhw, rwy'n gwybod. Gallaf, gallaf gadarnhau, wrth gwrs, o dan delerau'r compact a gytunwyd rhwng ein pleidiau, mai ein bwriad, wrth gwrs - . Wel, byddwn yn cyflwyno cronfa triniaethau newydd, ond, yn ogystal â hynny, byddwn yn ystyried a oes ffordd well o ymdrin â cheisiadau cyllido cleifion unigol ac wrth gwrs i weld a oes gair gwell neu derminoleg well y gellir ei defnyddio - yn hytrach na'r gair 'eithriadol'. |
You should be commended, I think, First Minister, for your movement on this point because, during the election campaign, both you and your candidates argued against the ending of the postcode lottery and this question of exceptionality. You also failed to meet with campaigners from the Hawl i Fyw campaign. Will you now agree to meet Irfon and Rebecca Williams from that campaign group so that they can share with you their experiences and so that they can also make sure that the new system removes obstacles from patients like Irfon and Annie Mulholland? | Dylid eich canmol, rwy'n credu, Brif Weinidog, am eich camau ar y pwynt hwn oherwydd, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, gwnaethoch chi a'ch ymgeiswyr ddadlau yn erbyn rhoi terfyn ar y loteri cod post a'r cwestiwn hwn o eithriadoldeb. Ni wnaethoch gyfarfod ag ymgyrchwyr o ymgyrch Hawl i Fyw ychwaith. A wnewch chi gytuno nawr i gyfarfod ag Irfon a Rebecca Williams o'r grŵp ymgyrchu hwnnw fel y gallant rannu eu profiadau â chi ac fel y gallant hefyd wneud yn siŵr bod y system newydd yn cael gwared ar rwystrau i gleifion fel Irfon ac Annie Mulholland? |
I have to say to the leader of the opposition that I have met Irfon and Rebecca Williams. I met them indeed in Llandudno Junction at the offices there. It was a very useful meeting. There were issues that they raised that I wasn't aware of and they have helped me to look to determine how policy should be framed in the future. Also, before the election, I gave a commitment, and, indeed, I think - well, I can't speak for other party leaders, but I think the commitment was that the offer was there for all to meet with Irfon once again and to once again examine the issues. | Mae'n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd yr wrthblaid fy mod i wedi cwrdd ag Irfon a Rebecca Williams. Cefais gyfarfod â nhw yng Nghyffordd Llandudno yn wir, yn y swyddfeydd yno. Roedd yn gyfarfod defnyddiol iawn. Roedd materion a godwyd ganddynt nad oeddwn yn ymwybodol ohonynt ac maen nhw wedi fy helpu i geisio penderfynu sut y dylid llunio polisi yn y dyfodol. Hefyd, cyn yr etholiad, rhoddais ymrwymiad, ac, yn wir, rwy'n credu - wel, ni allaf siarad ar ran arweinwyr pleidiau eraill, ond rwy'n meddwl mai'r ymrwymiad oedd bod y cynnig yno i bawb gyfarfod ag Irfon unwaith eto ac i ystyried y materion unwaith eto. |
I welcome that commitment from you this afternoon, First Minister. Campaigners and charities warmly welcomed last week's agreement between Plaid Cymru and Labour on this matter, because of that specific commitment to create a fairer and more equitable system here in Wales. This commitment would not have been there were it not for those campaigners. Will you give a commitment today that you and your new health Minister will respond positively to the recommendations of the review so that, in the future, the people who need new drugs and treatments will no longer be subjected to the injustices that were faced by Irfon Williams and Annie Mulholland amongst others? | Rwy'n croesawu'r ymrwymiad hwnnw gennych chi y prynhawn yma, Brif Weinidog. Cafodd y cytundeb yr wythnos diwethaf rhwng Plaid Cymru a Llafur ar y mater hwn ei groesawu'n frwd gan ymgyrchwyr ac elusennau, oherwydd yr ymrwymiad penodol hwnnw i greu system decach a mwy cyfiawn yma yng Nghymru. Ni fyddai'r ymrwymiad hwn wedi bod yno oni bai am yr ymgyrchwyr hynny. A wnewch chi ymrwymo heddiw y byddwch chi a'ch Gweinidog iechyd newydd yn ymateb yn gadarnhaol i argymhellion yr adolygiad er mwyn sicrhau, yn y dyfodol, na fydd y bobl sydd angen cyffuriau a thriniaethau newydd yn dioddef mwyach yr anghyfiawnderau a wynebwyd gan Irfon Williams ac Annie Mulholland ymhlith eraill? |
Well, certainly, there is a need to examine the current system in terms of whether there should be a national panel or local panels for individual patient funding requests - we're open to that - and, of course, the use of the word 'exceptionality'. There has to be something, otherwise there would be difficulties in terms of determining how drugs would be allocated, but, without prejudging anything, we enter this with an open mind. We take on board the views of others who say that it is difficult where you have a situation where somebody in one part of Wales can access a drug and someone in another part of Wales can't. Clearly, that's a very difficult position to defend and that's why, of course, in accordance with the spirit and the terms of the agreement, this is something that we're looking to revisit. | Wel, yn sicr, mae angen archwilio'r system bresennol o ran a ddylid cael panel cenedlaethol neu baneli lleol ar gyfer ceisiadau cyllido cleifion unigol - rydym ni'n agored i hynny - ac, wrth gwrs, y defnydd o'r gair 'eithriadoldeb '. Mae'n rhaid cael rhywbeth, neu fel arall byddai anawsterau o ran penderfynu sut y byddai cyffuriau'n cael eu neilltuo, ond, heb ragfarnu unrhyw beth, rydym ni'n mynd i'r afael â hyn gyda meddwl agored. Rydym yn gwrando ar safbwyntiau pobl eraill sydd yn dweud ei bod yn anodd pan fo gennych chi sefyllfa lle gall rhywun mewn un rhan o Gymru gael gafael ar gyffur ac na all rhywun mewn rhan arall o Gymru. Yn amlwg, mae honno'n sefyllfa anodd iawn i'w hamddiffyn a dyna pam, wrth gwrs, yn unol ag ysbryd a thelerau'r cytundeb, y mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni'n bwriadu ei ailystyried. |
Thank you, Presiding Officer. I'd like to identify myself with the comments about Annie Mulholland. I had the pleasure of sponsoring the event that was held and was widely supported by many Members of the previous Assembly, and, indeed, the previous health Minister spoke at that event in the Pierhead. Through her tenacity, through her dedication and her commitment, rather than letting her illness prevent her from doing things, she opened many, many doors and enforced the notion in many people's minds that nothing should be off limits, irrespective of whatever one's diagnosis is. I think that event over in the Pierhead really did emphasise the strength of character that the lady, Annie Mulholland, was, and her family can be justifiably proud of her endeavours. I'm sure that they would have wished that she was with them today, but she certainly made best use of the time that she had left to her when she had her terminal diagnosis. So, her loss will be greatly felt among many community members and, indeed, Members of the previous Assembly and friends and family. First Minister, you put your Government together last week after, obviously, being voted in as First Minister. Can you confirm today that all members of your Cabinet are bound by collective responsibility on all issues that are brought forward by the Welsh Government? | Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn gysylltu fy hun â'r sylwadau am Annie Mulholland. Cefais y pleser o noddi'r digwyddiad a gynhaliwyd ac a gafodd ei gefnogi'n eang gan lawer o Aelodau'r Cynulliad blaenorol, ac, yn wir, siaradodd y Gweinidog iechyd blaenorol yn y digwyddiad hwnnw yn y Pierhead. Trwy ei dycnwch, trwy ei hymroddiad a'i hymrwymiad, yn hytrach na gadael i'w salwch ei hatal rhag gwneud pethau, agorodd lawer iawn o ddrysau gan wthio'r syniad i feddyliau llawer o bobl na ddylai unrhyw beth fod yn amhosibl, waeth beth fo diagnosis rhywun. Credaf fod y digwyddiad hwnnw draw yn y Pierhead wir wedi pwysleisio cryfder cymeriad y foneddiges, Annie Mulholland, a gall ei theulu fod yn haeddiannol falch o'i hymdrechion. Rwy'n siŵr y byddent wedi dymuno iddi fod gyda nhw heddiw, ond mae'n sicr ei bod wedi gwneud y defnydd gorau o'r amser a oedd ganddi ar ôl pan gafodd ei diagnosis terfynol. Felly, bydd llawer o aelodau'r gymuned yn ei cholli'n arw ac felly hefyd, mewn gwirionedd, Aelodau'r Cynulliad blaenorol a ffrindiau a theulu. Brif Weinidog, rhoesoch eich Llywodraeth at ei gilydd yr wythnos diwethaf ar ôl, yn amlwg, cael eich ethol yn Brif Weinidog. A allwch chi gadarnhau heddiw fod pob aelod o'ch Cabinet yn rhwymedig i gydgyfrifoldeb ar yr holl faterion sy'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru? |
Thank you for that answer. [Laughter.] One of the key programmes that you will be bringing forward is obviously the M4 relief road and, in particular, your own personal support, and, therefore, identifying that with the Welsh Government, over the development of the black route. Now, you answered a question earlier about the process about the public inquiry. In a written question back to me this week, you've identified that the commissioning date for the road would be 2018 - spring 2018. Can you, with confidence, say that you believe that that is a realistic commissioning date of spring 2018, and what gives you confidence that that date will be stuck to so that the moneys can be drawn down and used to solve the problem around the bottleneck around Newport? | Diolch i chi am yr ateb yna. [Chwerthin.] Un o'r rhaglenni allweddol y byddwch yn ei chyflwyno, yn amlwg, yw ffordd liniaru'r M4 ac, yn benodol, eich cefnogaeth bersonol eich hun, ac, felly, cysylltu hynny â Llywodraeth Cymru, i ddatblygiad y llwybr du. Nawr, atebwyd cwestiwn gennych yn gynharach am y broses ynghylch yr ymchwiliad cyhoeddus. Mewn cwestiwn ysgrifenedig yn ôl i mi yr wythnos hon, rydych chi wedi nodi mai 2018 - gwanwyn 2018 fyddai'r dyddiad comisiynu ar gyfer y ffordd. A allwch chi ddweud, yn hyderus, eich bod yn credu bod gwanwyn 2018 yn ddyddiad comisiynu realistig, a beth sy'n eich gwneud yn ffyddiog y glynir at y dyddiad hwnnw fel y gall yr arian gael ei dynnu i lawr a'i ddefnyddio i ddatrys y broblem ynglŷn â'r dagfa o amgylch Casnewydd? |
Well, I'm confident that the inquiry will conclude by the latter part of next year. We can't prejudge what the inquiry will say. I do take that there's been much debate in this Chamber and outside about the black route versus the blue route, or perhaps an alternative route. You've heard me say that the blue route is hugely problematic in terms of the fact that it's a dual carriageway, it goes past many people's houses, and involves the demolition of buildings. So, it's not pain-free. The black route - of course, we see that there have been some objections; they need to be examined and I'm more than happy for there to be an inquiry that examines not just the black route, but looks at another route as well. It's important that the public understand the reasoning behind the position that we have taken so far, which is that the black route appears to be the most likely route. | Wel, rwy'n hyderus y bydd yr ymchwiliad yn dod i ben erbyn rhan olaf y flwyddyn nesaf. Ni allwn ragfarnu'r hyn y bydd yr ymchwiliad yn ei ddweud. Rwy'n derbyn y bu llawer o ddadlau yn y Siambr hon a'r tu allan am y llwybr du yn erbyn y llwybr glas, neu lwybr arall efallai. Rydych chi wedi fy nghlywed i'n dweud bod y llwybr glas yn peri problemau mawr o ran y ffaith mai ffordd ddeuol ydyw, mae'n mynd heibio tai llawer o bobl, ac yn golygu dymchwel adeiladau. Felly, nid yw'n heb ei boenau. O ran y llwybr du - wrth gwrs, rydym ni'n gweld y bu rhai gwrthwynebiadau; mae angen eu harchwilio ac rwy'n fwy na pharod i gael ymchwiliad sy'n archwilio nid yn unig y llwybr du, ond sy'n edrych ar lwybr arall hefyd. Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn deall y rhesymeg y tu ôl i'r safbwynt yr ydym ni wedi ei fabwysiadu hyd yma, sef ei bod yn ymddangos mai'r llwybr du yw'r llwybr mwyaf tebygol. |
Thank you for that answer, First Minister. Obviously, the Government has committed itself now to the commissioning of this project by 2018 - spring 2018. I appreciate that the public inquiry is outside of your hands, but, with a fair wind, then the commissioning will happen and we will look at developments with interest on these matters. The other issue that is of time sensitivity is, obviously, the local government elections in May next year. Obviously, in the last Assembly - and you've spoken at length on this particular issue about local government reorganisation and you've put a lot of personal political capital into the reorganisation of local government across Wales. Can you confidently say today that there will be local government elections in May next year and that your Government will not be looking to postpone those elections by bringing forward either new proposals for a local government map here in Wales or, indeed, actually moving the date so that there can be wider consultation over local government reorganisation in Wales? | Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Yn amlwg, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo ei hun bellach i gomisiynu'r prosiect hwn erbyn 2018 - gwanwyn 2018. Rwy'n sylweddoli bod yr ymchwiliad cyhoeddus y tu allan i'ch rheolaeth, ond, gyda gwynt teg, bydd y comisiynu'n digwydd, a byddwn yn edrych ar ddatblygiadau ar y materion hyn gyda diddordeb. Y mater arall sydd yn sensitif o ran amser, yn amlwg, yw'r etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai y flwyddyn nesaf. Yn amlwg, yn y Cynulliad diwethaf - ac rydych chi wedi siarad yn helaeth ar y mater penodol hwn ynghylch ad-drefnu llywodraeth leol ac rydych chi wedi cyfrannu llawer o gyfalaf gwleidyddol personol i ad-drefnu llywodraeth leol ledled Cymru. A allwch chi ddweud yn hyderus heddiw y bydd etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai y flwyddyn nesaf ac na fydd eich Llywodraeth yn ceisio gohirio'r etholiadau hynny trwy gyflwyno cynigion newydd ar gyfer map llywodraeth leol yma yng Nghymru neu, yn wir, newid y dyddiad fel y gellir cael ymgynghoriad ehangach ar ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru? |
No, I think those elections will take place. I can't envisage a scenario where they wouldn't. So, in answer to his question, yes, they will take place next year. In terms of the local government reorganisation, it's clear to me that the map would not attract support in this Chamber, but I do know that, in this Chamber, there's support for local government reorganisation. So, it's a question of spending the next few months examining what common ground there may be between the parties so we can remove the situation where we have 22 local authorities, one of which collapsed entirely, and six of which were in special measures at one point in education. It's not a sustainable model. There's not a huge amount of disagreement over that, but, of course, it's a question of whether an agreement can be reached on a cross-party basis on a future and more sustainable model for local government in Wales. | Na, rwy'n credu y bydd yr etholiadau hynny'n cael eu cynnal. Ni allaf ragweld sefyllfa lle na fyddent. Felly, i ateb ei gwestiwn, byddant, mi fyddant yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf. O ran ad-drefnu llywodraeth leol, mae'n amlwg i mi na fyddai'r map yn ennill cefnogaeth yn y Siambr hon, ond rwyf yn gwybod, yn y Siambr hon, bod cefnogaeth i ad-drefnu llywodraeth leol. Felly, mae'n fater o dreulio'r ychydig fisoedd nesaf yn archwilio pa dir cyffredin allai fod rhwng y pleidiau fel y gallwn gael gwared ar y sefyllfa lle mae gennym ni 22 o awdurdodau lleol, gydag un ohonynt wedi chwalu'n gyfan gwbl, a chwech ohonynt a oedd yn destun mesurau arbennig ar un adeg ym maes addysg. Nid yw'n fodel cynaliadwy. Does dim llawer iawn o anghytundeb dros hynny, ond, wrth gwrs, mae'n gwestiwn o ba un a ellir dod i gytundeb ar sail drawsbleidiol ar fodel mwy cynaliadwy ar gyfer llywodraeth leol yn y dyfodol yng Nghymru. |
Thank you, Presiding Officer. Mr First Minister, you will have seen in the news this week that the United States has increased its tariffs on cold-rolled steel imports to the United States from 266 per cent to 522 per cent. This week, of all weeks, of course, we have all, in the forefront of our minds, the future of Port Talbot steel making. The EU, by contrast to the United States, has a 14 per cent tariff on that kind of steel import into the EU. Will you support our proposal that the EU should increase its tariffs to the levels that the United States have? | Diolch i chi, Lywydd. Mr Prif Weinidog, byddwch wedi gweld yn y newyddion yr wythnos hon bod yr Unol Daleithiau wedi cynyddu ei thariffau ar fewnforion dur wedi'i rolio'n oer i'r Unol Daleithiau o 266 y cant i 522 y cant. Yr wythnos hon, o bob wythnos, wrth gwrs, dyfodol cynhyrchu dur ym Mhort Talbot sydd flaenllaw ym meddyliau pob un ohonom. Mae gan yr UE, mewn gwrthgyferbyniad â'r Unol Daleithiau, dariff o 14 y cant ar y math hwnnw o fewnforio dur i'r UE. A wnewch chi gefnogi ein cynnig y dylai'r UE gynyddu ei dariffau i'r lefelau y mae'r Unol Daleithiau wedi ei wneud? |
Yes, I would, and the Member, of course, will know that it was the UK Government, unfortunately, that opposed the raising of those tariffs. It wasn't the EU opposing it; it was a position taken then by the UK Government. They've given an explanation for that, but, I think, in the light of what's happened across the world, that we do need to see fairness for our own steel producers. | Gwnaf, mi wnaf, a bydd yr Aelod, wrth gwrs, yn gwybod mai Llywodraeth y DU, yn anffodus, a wrthwynebodd codi'r tariffau hynny. Nid yr UE oedd yn ei wrthwynebu; roedd yn safbwynt a fabwysiadwyd ar y pryd gan Lywodraeth y DU. Maen nhw wedi rhoi esboniad am hynny, ond, rwy'n meddwl, yng ngoleuni'r hyn sydd wedi digwydd ar draws y byd, bod angen i ni weld tegwch i'n cynhyrchwyr dur ein hunain. |
I have no difficulty in endorsing the criticism that you, as First Minister, have made of our Government for not supporting realistic tariffs on dumped Chinese steel. It is certainly - [Interruption.] It is certainly not UKIP policy to support the present level of tariffs in the EU. But what this does show us, first and foremost, is what happens when you outsource your trade policy to an unelected body based in another country. So, what I would like to see, and I hope that the First Minister would agree with this, is a return of our policy to introduce anti-dumping duties to these shores of the United Kingdom by recovering our seat on the World Trade Organization. I wonder if the First Minister would agree with that. | Nid oes gennyf unrhyw anhawster yn cymeradwyo'r feirniadaeth yr ydych chi, fel Prif Weinidog, wedi ei gwneud o'n Llywodraeth am beidio â chefnogi tariffau realistig ar ddur wedi'i ddympio o Tsieina. Yn sicr - [Torri ar draws.] Yn sicr, nid polisi UKIP yw cefnogi'r lefel bresennol o dariffau yn yr UE. Ond yr hyn y mae hyn yn ei ddangos i ni, yn gyntaf ac yn bennaf, yw'r hyn sy'n digwydd pan fyddwch chi'n allanoli eich polisi masnach i gorff anetholedig wedi'i leoli mewn gwlad arall. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei weld, ac rwy'n gobeithio y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno â hyn, yw dychweliad ein polisi i gyflwyno dyletswyddau gwrth-ddympio i'r Deyrnas Unedig hon trwy adennill ein sedd ar Sefydliad Masnach y Byd. Tybed a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â hynny. |
The difficulty, of course, with the argument he puts forward is that, if the EU were to raise tariffs against steel and the UK were to leave the EU, those tariffs would apply against UK steel. So, we would then find ourselves facing an enormous tariff barrier if we wished to export into the EU, and 30 per cent of steel produced in Wales is exported. | Yr anhawster, wrth gwrs, â'r ddadl y mae'n ei gwneud yw, pe byddai'r UE yn codi tariffau yn erbyn dur a'r DU yn gadael yr UE, byddai'r tariffau hynny'n berthnasol ar gyfer dur y DU. Felly, byddem yn canfod ein hunain yn wynebu rhwystr tariff enfawr wedyn pe byddem yn dymuno allforio i mewn i'r UE, ac mae 30 y cant o'r dur a gynhyrchir yng Nghymru yn cael ei allforio. |
But the real problem with devolution in this country is not the degree of exports that we have from this country to the EU, but the flood of imports from China into the EU, which is causing paralysis throughout the steel industry in the whole of the EU. The problem that we face is that elected politicians, ultimately, do not call the shots in the EU. That's why our recommendation is for the people of this country, in Wales in particular, to vote to leave the EU on 23 June. | Ond nid maint yr allforion sydd gennym ni o'r wlad hon i'r UE yw'r broblem wirioneddol â datganoli yn y wlad hon, ond y llif o fewnforion o Tsieina i mewn i'r UE, sy'n achosi parlys ar draws y diwydiant dur yn yr UE cyfan. Y broblem sy'n ein hwynebu yw nad gwleidyddion etholedig, yn y pen draw, sy'n gwneud y penderfyniadau yn yr UE. Dyna pam mai ein hargymhelliad ni yw i bobl y wlad hon, yng Nghymru yn arbennig, bleidleisio i adael yr UE ar 23 Mehefin. |
We have to remember that it was a decision taken by an elected UK Government not to support the raising of the tariffs. That was the decision taken, not alone by the UK Government, but by other Governments - at least one other Government - as well. But, from my perspective, I think it's hugely important that, yes, we have a tariff wall against cheap imports coming here from other parts of the world, but we don't have a tariff wall against UK steel being imported into the EU. | Mae'n rhaid i ni gofio mai penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth etholedig y DU oedd peidio â chefnogi codi'r tariffau. Dyna oedd y penderfyniad a wnaed, nid gan Lywodraeth y DU ar ei phen ei hun, ond gan Lywodraethau eraill - o leiaf un Llywodraeth arall - hefyd. Ond, o'm safbwynt i, rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig bod gennym ni rwystr tariff i atal mewnforion rhad rhag dod yma o rannau eraill o'r byd, ond nad oes gennym rwystr tariff i atal dur y DU rhag cael ei fewnforio i'r UE. |
This dataset consists of English-Welsh sentence pairs obtained by parsing the data provided from the Welsh Parliament website.
The dataset was created via an internal pipeline employing DVC and Python.
Sentences were dropped from the original scrapped sources in the following cases:
The language data, including source and target language data, is derived from transcripts of the proceedings of the Senedd's Plenary meetings and their translations. See here for information.
This dataset's source data is Crown copyright and is licensed under the Open Government License.